Gwobrau Menter Aberystwyth 2023 – yr enillwyr

Noson wobrwyo yng Nghanolfan Medrus

gan Cyngor Tref Aberystwyth

Trefnodd Menter Aberystwyth noson arbennig i ddathlu pobl arbennig iawn yn Aberystwyth a’r cyffiniau.

Mewn digwyddiad yng Nghanolfan Medrus ar nos Iau, 22ain o Fehefin, cyflwynwyd gwobrau i’r canlynol: –

Probert and Williams- Y wobr wyrdd (noddwyd gan Driftwood Designs)

Cicio’r Bar – Gwobr Celf a Llenyddiaeth (noddwyd gan Atebol)

Aber Wheel Together – Gwobr Cefnogi pobl (noddwyd gan Anthony Motors)

Yr Angor – Gwobr yr Iaith Gymraeg (noddwyd gan steilio Dots styling)

Over the Falls podcast – cefnogi’r gymuned (noddwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru)

Driftwood Designs – Gwobr busnes masnachol (noddwyd gan Bottle and Barrel)

Y ffarmers – Gwobr Bwyd a Diod (noddwyd gan The Courtyard)

Ahmet Acikel- Gwobr Arwr y Gymuned (noddwyd gan CAVO)

Rheilffordd Rheidol – Gwobr twristiaeth (noddwyd gan NFU Mutual)

BMO Coaching – Gwobr Buddsoddi mewn Ieuenctid (noddwyd gan Iestyn Leyshon Property)

Becws Cymru a Vintage Vibes – rhannu’r Wobr am fusnes newydd (noddwyd gan Fenter a Busnes)

Sgarmes Singalong- Digwyddiad y flwyddyn 2022 (noddwyd gan BDW Construction)

Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd a diolch i’r noddwyr – Cyngor Tref Aberystwyth a Phrifysgol Aberystwyth.