Gwobrau’r Seindorf Arian

Paul a Jacob yn derbyn diolchgarwch y band

gan Cyngor Tref Aberystwyth
Jacob Williams yn derbyn ei wobr gan Angharad Davies

Jacob Williams yn derbyn ei wobr gan Angharad Davies

Paul-Davies1

Paul Davies yn derbyn ei wobr gan Ivan Anchant

Ar ddydd San Ffolant, 14eg o Chwefror 2023, cynhaliwyd seremoni i ddiolch i aelodau Band Seindorf Arian Aberystwyth.

Derbyniodd Paul, sydd yn wreiddiol o Bow Street ond bellach yn byw yn Abermagwr, wobr er cof am T E Jenkins ac E Ll Jones am ei gyfraniad i’r band.

Nid yn unig mae Paul yn aelod gweithgar o’r band, ond ef sydd hefyd yn gyfrifol am edrych ar ôl yr offer, sicrhau bod yr offer yn cyrraedd y cyngherddau a sicrhau eu bod yn cael eu cadw mewn cyflwr da.

Wedi cyflwyniad gan y Cadeirydd y flwyddyn flaenorol, Ivan Avchant, derbyniodd Paul dystysgrif i gydnabod ei wobr.

Dywedodd Paul

Braint oedd derbyn gwobr E Ll Jones a T E Jenkins am y gwasanaethau i’r band. Mae gennyf atgofion o’r ddau pan oeddwn i’n blentyn ifanc yn chwarae gyda’r band, a chofio faint o ymroddiad roedd y ddau yn cyfrannu tuag at Seindorf Arian Aberystwyth. Anrhydedd felly yw derbyn y gydnabyddiaeth yma. Diolch

Ar yr un noson, cyflwynodd Angharad Davies, merch y diweddar John R Davies (y gemydd) wobr er cof amdano. Enillydd y wobr Chwaraewr Ifanc oedd Jacob Williams sydd yn chwarae’r cornet ac yn aml yn gwneud unawdau ym mherfformiadau’r Seindorf.

Mae hefyd yn briodol i gofio’r cyfraniad mawr a wnaeth John Davies i’r Seindorf – fel unawdydd ac aelod o’r band, ac yn ysbrydoliaeth i nifer o aelodau ifanc.

Llongyfarchiadau i’r ddau ohonynt, a diolch i’r band am gefnogi holl ddigwyddiadau yn y dref.

Mae’r band yn cynnal digwyddiad ar y 9fed neu’r 10fed o Fehefin 2023. Os ydych chi yn gyn-aelodau o’r band, cysylltwch â aberystwythsilverband@gmail.com