gan
Anwen Pierce
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2023/01/poster-cyngerdd-28-ion-pdf-640x396.jpg?0)
Nos Sadwrn (28 Ion) yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, bydd Cymdeithas Gorawl Aberystwyth a Sinfonia Cambrensis, ynghyd â 4 unawdydd penigamp, yn perfformio detholiad o Oratorio Nadolig Bach. Daw’r soprano, Khrystyna Makar, o Lviv yn Wcrain. Treuliodd hi dri mis yng ngwersyll yr Urdd, Llangrannog, gyda’i meibion, wedi iddyn nhw ffoi o’r wlad yn sgil y rhyfel erchyll yno. Bellach mae’r teulu wedi ymgartrefu yng ngogledd Ceredigion.
Bu’n rhaid gohirio’r gyngerdd ym mis Rhagfyr, ond cymerwyd mantais o’r cyfnod ychwanegol er mwyn rhoi sglein ar y cyfan. Felly, dewch i fwynhau gwledd o gerddoriaeth Bach – bydd croeso cynnes iawn i bawb. (Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 28 Ion, 7.30.)