Gweithdai Celf i Bobl o Liw yn Aber

Cynnal gweithdai fel rhan o waith prosiect #CymruWrthHiliol

gan Nia Edwards-Behi
gweithdai-aberystwyth

Bydd yr artist Jasmine Violet yn cynnal dau weithdy celf ar gyfer bobl o liw yn Aberystwyth yr wythnos yma. Mae’r gweithdai yn rhan o brosiect ehangach #CymruWrthHiliol sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn gyfle i agor archifau traddoddiadol i’r rheini sydd yn aml yn cael eu cau allan ohonynt.

Am 11yb–5yp, ddydd Mercher, Medi 13, bydd gweithdy “Ailymweld â Chasgliadau” yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Ceredigion, lle bydd cyfle i ddarganfod yr artist ynoch chi. Fel rhan o’r gweithdy byddwch yn mynd ar daith drawsnewidiol lle mae hanes yn cwrdd â chelf, gan blymio i gasgliadau wedi’u curadu, a bydd cyfle i drafod ac ymateb yn greadigol i’r casgliadau arbennig yma.

Am 10yb–5yp, ddydd Gwener, Medi 15, bydd gweithdy “Darlunio’r Dyfodol, Gorffennol Paentiedig” yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fe gewch chi gyfle i brofi amryw o arddulliau celfyddydol a defnyddio cyfryngau celf gwahanol wrth archwilio sut mae artistiaid o gefndiroedd amrywiol yn cyfathrebu eu hunaniaethau diwylliannol drwy eu gwaith.

Mae yna hyd yn oed £35 i chi am eich amser a’ch cyfraniad i’r gweithdai. Mae croeso mawr i bawb o bob lefel o ran sgil gelfyddydol, o’r rheini sy’n chwilfrydig o’r newydd hyd at artistiaid profiadol. Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal drwy’r Saesneg.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â Jasmine ar jvs@llgc.org.uk.