O Gomin Greenham i Gefn Gwlad

Heddiw (Llun, 27ain o Fawrth) agorodd drysau Archif Ddarlledu Cymru i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Archif Ddarlledu CymruHawlfraint LLyfrgell Genedlaethol Cymru

Disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar yn Archif Ddarlledu Cymru

Archif Ddarlledu Cymru 2Hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Disgylion Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar yn ymchwilio yn Archif Ddarlledu Cymru

Archif Ddarlledy Cymru 3Hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Teulu cyfan ym mwynhau Archif Ddarlledu Cymru

Archif Ddarlledu Cymru 5Hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dewch i wrando

Archif Ddarlledu Cymru 4

Gwrando ar eitemau o gasgliad sain Archif Ddarlledu Cymru

Rwyf newydd gael bore gwerth chweil yn Y Llyfrgell Genedlaethol, cartref yr Archif Ddarlledu arloesol yma, yn palu trwy gyfoeth o ddeunydd aml-gyfrwng. Rhan annatod o’r Archif yw arddangosfa sy’n dod a hanes bron i ganrif o ddarlledu yng Nghymru yn fyw trwy bytiau o raglenni radio a theledu.

Ymysg y sylw i Tommy Farr, protestiadau a cherddoriaeth pop, mae ambell i berl â chysylltiad lleol. Gallwch wylio pwt o’r unig gopi sydd wedi goroesi o’r gyfres hynod boblogaidd, Gwlad y Gân. Yn cadw cwmni i’r enwog Ivor Emanuel ynghanol yr holl firi mae Dennis Griffiths, sydd â chysylltiadau teuluol o hyd yn Aberystwyth, gan gynnwys Dai a June Griffiths.

Un o brotestiadau eiconig y ganrif ddiwethaf oedd protest Comin Greenham yn erbyn gosod taflegrau Americanaidd ar safle’r Awyrlu. Merched o Gymru wnaeth sefydlu’r gwersyll ac mae cyfle i weld cyfweliad newyddion gyda Medi James o Aberystwyth.

Yn ogystal â’r arddangosfa mae yna gyfle i archwilio 250,000 glipiau fideo a sain sy’n cyfleu pob agwedd o fywyd yng Nghymru. Mi fydd y nifer yn cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf ond eisoes gallwch wylio eitemau o ddiddordeb lleol – Dechrau Canu Dechrau Canmol o Bow Street, Rasys Tregaron a mwy. Mae’n rhaid ymaelodi a’r Llyfrgell Genedlaethol i weld y rhain ond gallwch wneud hynny yn y fan a’r lle ar y cyfrifiadur (cymorth wrth law).

Yn goron ar y cyfan gallwch recordio eich hun yn darllen y tywydd neu ddarllen y newyddion ar y teledu! Rwy’n siŵr y bydd y gweithgaredd yma’n hynod boblogaidd. Er y cynnig, mi wnes wrthod a heglu am yr haul braf tu allan a’r olygfa odidog o fae Ceredigion.

Fel unigolyn neu grŵp mae croeso i chi ymweld neu hyd yn oed wirfoddoli i gynorthwyo gyda’r Archif. Mae yna dipyn o dechnoleg o gwmpas y lle, ond peidiwch â phoeni. Holwch un o’r staff croesawgar am gymorth. Mi wnes i sawl gwaith!

Os am wneud ymholiadau am yr Archif, ewch i https://www.llyfrgell.cymru/am-llgc/amdanom-ni/ymholiadau-llgc

Fideo yn cyflwyno’r Archif: Archif Ddarlledu Cymru