Rwyf newydd gael bore gwerth chweil yn Y Llyfrgell Genedlaethol, cartref yr Archif Ddarlledu arloesol yma, yn palu trwy gyfoeth o ddeunydd aml-gyfrwng. Rhan annatod o’r Archif yw arddangosfa sy’n dod a hanes bron i ganrif o ddarlledu yng Nghymru yn fyw trwy bytiau o raglenni radio a theledu.
Ymysg y sylw i Tommy Farr, protestiadau a cherddoriaeth pop, mae ambell i berl â chysylltiad lleol. Gallwch wylio pwt o’r unig gopi sydd wedi goroesi o’r gyfres hynod boblogaidd, Gwlad y Gân. Yn cadw cwmni i’r enwog Ivor Emanuel ynghanol yr holl firi mae Dennis Griffiths, sydd â chysylltiadau teuluol o hyd yn Aberystwyth, gan gynnwys Dai a June Griffiths.
Un o brotestiadau eiconig y ganrif ddiwethaf oedd protest Comin Greenham yn erbyn gosod taflegrau Americanaidd ar safle’r Awyrlu. Merched o Gymru wnaeth sefydlu’r gwersyll ac mae cyfle i weld cyfweliad newyddion gyda Medi James o Aberystwyth.
Yn ogystal â’r arddangosfa mae yna gyfle i archwilio 250,000 glipiau fideo a sain sy’n cyfleu pob agwedd o fywyd yng Nghymru. Mi fydd y nifer yn cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf ond eisoes gallwch wylio eitemau o ddiddordeb lleol – Dechrau Canu Dechrau Canmol o Bow Street, Rasys Tregaron a mwy. Mae’n rhaid ymaelodi a’r Llyfrgell Genedlaethol i weld y rhain ond gallwch wneud hynny yn y fan a’r lle ar y cyfrifiadur (cymorth wrth law).
Yn goron ar y cyfan gallwch recordio eich hun yn darllen y tywydd neu ddarllen y newyddion ar y teledu! Rwy’n siŵr y bydd y gweithgaredd yma’n hynod boblogaidd. Er y cynnig, mi wnes wrthod a heglu am yr haul braf tu allan a’r olygfa odidog o fae Ceredigion.
Fel unigolyn neu grŵp mae croeso i chi ymweld neu hyd yn oed wirfoddoli i gynorthwyo gyda’r Archif. Mae yna dipyn o dechnoleg o gwmpas y lle, ond peidiwch â phoeni. Holwch un o’r staff croesawgar am gymorth. Mi wnes i sawl gwaith!
Os am wneud ymholiadau am yr Archif, ewch i https://www.llyfrgell.cymru/am-llgc/amdanom-ni/ymholiadau-llgc
Fideo yn cyflwyno’r Archif: Archif Ddarlledu Cymru