Goleuo Coeden Nadolig Llanbadarn

Adloniant, goleuadau ac ymwelydd annisgwyl!

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Goleuo Coeden Nadolig LLanbadarn Fawr 2023
Goleuo Coeden Nadolig Llanbadarn 2023

Plant yr Ysgol Gymraeg yn canu carolau.

Coeden Nadolig Llanbadarn Fawr 2023
Goleuo Coeden Nadolig Llanbadarn Fawr 2023

Ymweliad annisgwyl Siôn Corn.

Roedd sgwâr Llanbadarn Fawr yn llawn dop ar gyfer seremoni goleuo’r goeden Nadolig ar nos Wener, 24ain o Dachwedd. Cafwyd gwledd o ganu carolau gan ddisgyblion Ysgol Padarn Sant a’r Ysgol Gymraeg i ddiddanu’r dorf.

Amanda Jones, Gogerddan Arms, cafodd yr anrhydedd o droi’r goleuadau ymlaen a’r gweithgareddau’n cael eu llywio gan y Cyng. Gareth Davies, Cadeirydd Cyngor Cymunedol Llanbadarn Fawr.

I goroni’r cyfan profodd ymweliad Siôn Corn yn boblogaidd iawn gyda’r holl blant.