Ar Gered yn y niwl

Hanes taith mis Chwefror Ar Gered yn ardal Tre’r-ddôl

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Daeth 19 o gerddwyr Cymraeg brwd at ei gilydd ddydd Sadwrn Chwefror 18fed i fwynhau taith mis Chwefror Ar Gered yng nghanol y niwl o bentref Tre’r-ddôl i Fedd Taliesin. 

Wedi cwpaned fach glou yng nghaffi Cletwr cychwynnwyd ar ein taith i gyfeiriad Machynlleth cyn dilyn arwydd Llwybr Arfordir Cymru trwy goed Pantglas Mawr. Ar ddiwedd y llwybr yma, sydd ychydig yn serth mewn mannau, fe wnaethom ymuno â’r ffordd fach i gyfeiriad ffermydd Ynystudor a Chefngweiriog.

Yng Nghefngweiriog, gwnaethom gymryd llwybr trwy’r cae cyn ailymuno â’r ffordd ble rhannwyd chwedl Ogof Morris, sef ogof y dihiryn lleol, sydd wedi ei lleoli yn ôl pob sôn ar lethrau creigiog Foel Goch uwchben y fferm.

Dilynom y ffordd i gyfeiriad y de gan basio Llety’r Fron a phownd llawn hwyaid lliwgar tuag at yr hen bont dros afon Cletwr a’i rhaeadrau bach pert cyn parhau i fferm Gwar-cwm-uchaf. Yno, fe drowyd oddi ar y ffordd a mynd trwy’r llidiart er mwyn cymryd hen lwybr ceffyl i bwynt uchaf y daith a fyddai fel arfer yn cynnig golygfa arbennig o aber afon Dyfi, Y Tarennau a chopaon de Eryri ond, diolch i’r niwl, bu rhaid i ni gau ein llygaid a dychmygu’r olygfa!

Wedi inni droi i’r dde a dilyn y ffordd darmac at Fedd Taliesin fe wnaeth hi godi gwynt ac yn hytrach na chael ein cinio yno fe barhawyd ar ein taith trwy ddychwelyd i fferm Gwar-cwm-uchaf. Y tro hwn fe ddilynom lwybr arall o’r fferm – un i’r chwith i gyfeiriad y goedwig yn y gobaith am lecyn mwy cysgodol i fwynhau ein cinio. Ychydig yn wlyb oedd y llwybr hwn mewn mannau ond ymhen rhai munudau darganfyddom fancyn mwsoglyd, cysgodol ar gyrion Coed Tafarn-fach i eistedd a bwyta ein brechdanau a rhoi’r byd yn ei le yn Gymraeg!

I gloi’r daith fe wnaethom barhau ar hyd y llwybr i lawr trwy goedwig Cwm Cletwr yn ôl i Dre’r-ddôl.

Taith mis Mawrth – Llyn Conach – Dydd Sadwrn Mawrth 18fed

I dderbyn mwy o wybodaeth am deithiau Ar Gered ac i gofrestru ar gyfer y daith uchod e-bostiwch steffan.rees@ceredigion.gov.uk.