Ar Gered ar Fanc Llety Ifan Hen

Taith gyntaf 2023 yn denu llawer o wynebau newydd

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Daeth 25 o gerddwyr (ac un ci!) ynghyd ddydd Sadwrn, Ionawr 7fed, ar gyfer taith gerdded gyntaf Ar Gered yn 2023 o gwmpas ardal Llyn Pendam, Banc Llety Ifan Hen a Chwmsymlog.

Wedi cyfnod o dywydd mor wlyb, roeddem yn ffodus tu hwnt o gael seibiant o’r glaw, a hyd yn oed ychydig o heulwen, ar gyfer dechrau cyfres arall o deithiau tywys Cymraeg eu hiaith yn y Topie eleni.

Pendam i Graigypistyll

Man cychwyn y daith oedd maes parcio Llyn Pendam, sydd yn fan arbennig o dda ar gyfer cychwyn ystod eang o deithiau cerdded a beicio, ac mae Ar Gered wedi cyfarfod yna gwpl o weithiau o’r blaen. Dechreuwyd y daith hon trwy ddilyn ein holion traed o daith flaenorol i Lyn Craigypistyll am ychydig a mynd ar hyd un o’r ffyrdd coedwig sydd yn cychwyn nid nepell o’r maes parcio.

Ar ôl codi curiad y galon ar dyle bach cyntaf y daith, cyn hir gwelsom Ben Craigypistyll am y tro cyntaf a hynny drwy fwlch yn y rhesi o goed pinwydd. Er ei fod yn dipyn llai o ran uchder, mae’n fynydd bach hynod o drawiadol – Matterhorn Ceredigion!

Gan basio criw o helwyr a’u cŵn egnïol ar y ffordd, trowyd i’r chwith ar ffordd raeanog ychydig yn llai o ran maint i gyfeiriad Bont-goch ar hyd llwybr Banc Llety Ifan Hen.

Cyfeiriodd T. I. Ellis at y ffordd hon yn ei gyfrol Crwydro Ceredigion (1953) gan rybuddio unrhyw un oedd am fentro mynd ar ei hyd:

‘Cynghoraf i neb fentro mewn car na hyd yn oed ar gefn beisicl ar y ffordd hon.’

Wrth gwrs, i gerddwyr yn ogystal â beicwyr mynydd (a beicwyr graean hyderus), mae Banc Llety Ifan Hen yn cynnig y pleser mwyaf! Er nad yw’r ardal hon o Gymru yn rhan o unrhyw Barc Cenedlaethol nac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae’r olygfa o’r bancyn draw at Graigypistyll a Llawrcwm-bach yn fwy na haeddiannol o ryw fath o statws arbennig. Ac aralleirio T. I. Ellis, cynghoraf bawb abl i fentro yno i fwynhau’r olygfa!

Wedi saib neu ddau am luniau o’r golygfeydd anhygoel yma, fe wnaethom barhau ar hyd y llwybr arbennig hwn gan weld tyrbeini gwynt Mynydd Gorddu yn dod i’r amlwg – lleoliad am daith arall eleni – gwyliwch y gofod!

Llety Ifan Hen i Gwmsymlog a Phendam

Wrth gyrraedd fferm hynafol Llety Ifan Hen trowyd i’r chwith er mwyn gallu dilyn Llwybr Borth-Pontarfynach-Pontrhydfendigaid i gyfeiriad Cwmsymlog. Mae union ystyr yr enw Llety Ifan Hen a phwy yn union oedd Ifan Hen ychydig yn aneglur, ond mae’n debyg fod y fferm yn dyddio ’nôl i o leiaf 1603 gyda chodiadau yn y tir sydd yn awgrymu setliad llawer cynharach. Cewch ddarllen am hanes Llety Ifan Hen ac enwau llefydd eraill yr ardal hon yn llyfr hynod o ddiddorol Richard E. Huws, Enwau tai a ffermydd Bont-goch (Elerch), Ceredigion. 

Y llyn bach ger Blaencastell oedd nesaf, ac o gofio’r holl law diweddar roedd y llyn wedi gorlifo ychydig dros y llwybr ond, diolch i’r drefn, fe wnaeth y bŵts cerdded gwrth-ddŵr ac ambell gam hir sicrhau na chafwyd unrhyw draed gwlyb.

Dringfa gymharol serth oedd nesaf i ni, lan i’r ffordd fawr ger Bryngolau, ac ar ôl saib i gael ein hanadl ’nôl parhawyd ar hyd y llwybr i lawr i Gwmsymlog. Gan fwynhau’r olygfa cafwyd cyfle i drafod y diwydiant mwyngloddio yn yr ardal a gyda chriw mor ddiddorol o bobl bu llawer o rannu ffeithiau a straeon, a dysgwyd llawer.

Wrth i sawl un ofyn pryd oeddem am gael cinio, gwibiom lan dringfa ola’r daith, sef y trac graeanog o Gwmsymlog i Lyn Pendam er mwyn sicrhau lle ar y faincbren wrth ymyl y llyn i agor y bocsys bwyd.

Moyn ymuno’r tro nesaf?

Os ydy hanes y daith hon wedi bod at eich dant, yna beth am ymuno â ni ar un o’r teithiau nesaf? E-bostiwch: steffan.rees@ceredigion.gov.uk er mwyn cael ymuno â’r rhestr e-bostio neu ymunwch â’r grŵp Facebook drwy chwilio am Ar Gered. Bydd taith mis Chwefror yn cael ei gyhoeddi wap!