Ffarwelio â Gwilym ac Alex

Anrhegu Gweinidog Seion, Aberystwyth a Bethel, Tal-y-bont

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Rhif-5
Anrhegu Gwilym ac Alex

Anrhegu – Bethel, Tal-y-bont

Anrhegu Gwilym ac Alex

Anrhegu – Seion, Aberystwyth

Daeth aelodau a ffrindiau ynghyd i Fethel, Tal-y-bont ar Orffennaf 9 ac yna i Eglwys Seion, Aberystwyth ar Orffennaf 23 ar gyfer oedfaon olaf y Parchedig Gwilym Tudur. Wedi cyfnod yng ngogledd Ceredigion, mae Gwilym a’i briod Alex ar fin dechrau pennod newydd yng Nghaergrawnt – Gwilym i barhau gyda’i astudiaethau ac Alex i ddysgu mathemateg.

Ar ddiwedd yr oedfaon, talwyd teyrngedau am waith diflino Gwilym ac Alex dros y tair blynedd ddiwethaf. Fe gyflwynwyd rhoddion iddynt fel arwydd o werthfawrogiad swyddogion ac aelodau’r ddwy eglwys a chafwyd cyfle i hel atgofion dros baned. Hyd yn oed yn ystod cyfnod COVID, roedd y ddau yn flaengar wrth ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gynnal y neges a byddwn yn sicr o golli eu gwên groesawgar.

Dymuna aelodau Bethel a Seion ddiolch i’r ddau am eu hymroddiad a dymunir pob bendith arnynt i’r dyfodol.  Rwy’n siŵr y cawn gyfle eto i’w croesawu yn ôl i’r fro.

Bydd manylion llawnach yn ymddangos yn yr Angor a Papur Pawb.