Eisteddfod Ysgol Llwyn yr Eos

Holl disgyblion yr ysgol yn cystadlu yn yr Eisteddfod flynyddol.

gan Catrin Medi Pugh-Jones

Ar Fawrth 1af daeth holl ddisgyblion Llwyn yr Eos ynghyd i gystadlu yn ein Heisteddfod flynyddol.

Caswom ddiwrnod llawn bwrlwm!

Llanwyd y borau gyda’r plant ifancaf yn cystadlu ar y canu a’r llefaru. Clywsom Dau Gi Bach, Anifeiliaid Anwes, Adeiladu Tŷ Bach a Bwrw Glaw, i enwi ond rhai o gerddi a chaneuon Cymraeg.

Wrth dorri am ginio cyhoeddwyd mai Gogerddan oedd ar y blaen gyda Nanteos a Hafod yn brwydro am yr ail safle.

Dechreuodd yr ail hanner gyda’r Seremoni Gadeirio. Llongyfarchiadau mawr i Maisie am gipio’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth ysgrifennu stori Saesneg. Llongyfarchiadau i Tamsin ac Elena am gyflwyno eu hunain yn arbennig yn Gymraeg er mwyn cipio cydradd gyntaf i ennill y Gadair. Y merched yn serennu eleni. Da iawn chi.

Wrth fwrw ati gyda’r cystadlu, cyfle i Gyfnod Allweddol 2 oedd hi i berfformio ar y llwyfan. Gwelwyd grwpiau llefaru a phartïon canu yn ogystal ag unigolion yn perfformio ar y llwyfan.

Uchafbwynt yr Eisteddfod oedd gwylio’r gystadleuaeth ‘Hysbyseb’.

Gogerddan yn hysbysebu bwyd ci ‘Bow Wow’.

Hafod yn hysbysebu eli adeiladu cyhyrau ‘Mega Muscle Magic’.

Nanteos yn hysbysebu sbectol aros ar ddihun ‘Brighteyes’.

Llongyfarchiadau am berfformiadau gwych ac i Mr Davies am wneud ‘Guest Appearance’ ar y llwyfan!

Ar ôl cystadleuaeth y côr, bu rhaid aros yn eiddgar am y canlyniadau terfynol:

 

  • 1af Gogerddan 473 o bwyntiau.
  • 2il Hafod 462 o bwyntiau.
  • 3ydd Nanteos 458 o bwyntiau.

 

Diolch i’r beirniaid, Mr Gareth Jones ac Enid Welsh, am fod mor garedig a hael.

Llongyfarchiadau i bob disgybl am eu hymdrech a diolch yn fawr i’r staff i gyd am eu gwaith di-flino.

Diwrnod ardderchog!!!