Eisteddfod papur bro Y DDOLEN

Ewch ati i gyfansoddi!

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
EisteddfodyDDOLEN

Pa gapsiwn fyddech chi’n roi i’r llun yma?

Cofiwch gystadlu yn Eisteddfod y DDOLEN eleni. Mae dyddiad cau derbyn eich campweithiau yn brysur agosáu, sef dydd Mawrth, 31 Ionawr 2023.

Beirniaid gwaith yr adran agored a’r ysgrifennu creadigol i blant a phobl ifanc fydd John a Tegwen, Blaenpennal. Catrin M S Davies, Tal-y-bont, fydd beirniad y ffotograffiaeth a’r capsiwn i’r llun, a Thomas Morgan, Siop Inc, fydd yn beirniadu’r arlunio i blant a phobl ifanc.

Dyma restr o gystadlaethau eleni, rhag ofn nad yw eich copi o’r DDOLEN wrth law!

AGORED

  1. Cerdd Ysgafn: Atgofion
  2. Limrig: yn cynnwys cyfeiriad at bapur bro Y Ddolen!
  3. Brawddeg: ABERMAD
  4. Erthygl: Addas i’r papur bro
  5. Portread: Cymeriad lleol
  6. Casgliad o enwau lleol (e.e. caeau, nentydd) a’u cefndir
  7. Ffotograffiaeth: Dŵr
  8. Capsiwn i lun (gweler y llun)

PLANT A PHOBL IFANC

4 categori oedran

  • Derbyn, Bl. 1 a Bl. 2
  • Bl. 3 a 4
  • Bl. 5 a 6
  • Bl. 7, 8 a 9
  1. Celf (llun 2D): Cymru
  2. Ysgrifennu Creadigol: Breuddwydio

Mae cadair gyfforddus, ddefnyddiol ar gael i enillydd y gerdd ysgafn a £5 i’r buddugol ym mhob cystadleuaeth arall.

Anfonwch eich deunydd drwy e-bost i: y.ddolen@gmail.com neu drwy’r post at: Enfys Evans, Hafan, Llanddeiniol, Llanrhystud, Ceredigion, SY23 5DT. Cofiwch gynnwys ffugenw gyda’r gwaith yn ogystal â’ch enw a manylion cysylltu.

Ewch ati i gystadlu!