Mae’n benwythnos gŵyl y banc – felly beth am fynd ati i gyfansoddi!
Cofiwch am Eisteddfod papur bro Y DDOLEN 2024. Mae’r dyddiad cau yn prysur agosáu ar 31 Ionawr 2024 ac edrychwn ymlaen yn fawr i dderbyn eich cynnyrch llenyddol.
Dyma’r testunau…
- Cerdd Ysgafn: Dathlu
- Erthygl addas i bapur bro
- Limrig: Tro Trwstan
- Brawddeg – Morgan
- Capsiwn i Lun (wele’r llun)
- Ffotograffiaeth – Y Gaeaf
Plant a Phobl Ifanc
4 categori oedran: Derbyn, Bl. 1 a Bl. 2; Bl. 3 a 4; Bl. 5 a 6; Bl. 7,8 a 9
- Celf (llun 2D): Y Tymhorau
- Ysgrifennu Creadigol: Teulu ni
Meinir a Pete Ebbsworth, Llanwnen fydd yn beirniadu’r gwaith llenyddol a Ruth Jên, Talybont fydd yn beirniadu’r gwaith celf. Diolch yn fawr iddynt am gytuno i roi o’u hamser.
Cynigir cadair gyfforddus ddefnyddiol unwaith eto eleni i’r gerdd ysgafn fuddugol ac mae gwobr gyntaf o £5 ym mhob cystadleuaeth arall.
Danfonwch eich deunydd drwy ebost i y.ddolen@gmail.com neu drwy’r post i Enfys Evans, Hafan, Llanddeiniol, Llanrhystud, Ceredigion, SY23 5DT. Cofiwch gynnwys ffugenw gyda’r gwaith yn ogystal â’ch enw a’r manylion cysylltu.