Cofiwch gystadlu yn Eisteddfod y DDOLEN eleni. Mae dyddiad cau derbyn eich campweithiau yn brysur agosáu, sef dydd Mawrth, 31 Ionawr 2023.
Beirniaid gwaith yr adran agored a’r ysgrifennu creadigol i blant a phobl ifanc fydd John a Tegwen, Blaenpennal. Catrin M S Davies, Tal-y-bont, fydd beirniad y ffotograffiaeth a’r capsiwn i’r llun, a Thomas Morgan, Siop Inc, fydd yn beirniadu’r arlunio i blant a phobl ifanc.
Dyma restr o gystadlaethau eleni, rhag ofn nad yw eich copi o’r DDOLEN wrth law!
AGORED
- Cerdd Ysgafn: Atgofion
- Limrig: yn cynnwys cyfeiriad at bapur bro Y Ddolen!
- Brawddeg: ABERMAD
- Erthygl: Addas i’r papur bro
- Portread: Cymeriad lleol
- Casgliad o enwau lleol (e.e. caeau, nentydd) a’u cefndir
- Ffotograffiaeth: Dŵr
- Capsiwn i lun (gweler y llun)
PLANT A PHOBL IFANC
4 categori oedran
- Derbyn, Bl. 1 a Bl. 2
- Bl. 3 a 4
- Bl. 5 a 6
- Bl. 7, 8 a 9
- Celf (llun 2D): Cymru
- Ysgrifennu Creadigol: Breuddwydio
Mae cadair gyfforddus, ddefnyddiol ar gael i enillydd y gerdd ysgafn a £5 i’r buddugol ym mhob cystadleuaeth arall.
Anfonwch eich deunydd drwy e-bost i: y.ddolen@gmail.com neu drwy’r post at: Enfys Evans, Hafan, Llanddeiniol, Llanrhystud, Ceredigion, SY23 5DT. Cofiwch gynnwys ffugenw gyda’r gwaith yn ogystal â’ch enw a manylion cysylltu.
Ewch ati i gystadlu!