Wythnos llawn gweithgareddau yn y Bandstand

Wythnos lawn dop ar y thema ‘Ein Tref’

Archifdy Ceredigion
gan Archifdy Ceredigion

Mae Archifdy Ceredigion unwaith eto yn mentro i’r ‘bandstand’ i gyflwyno llu o weithgareddau a digwyddiadau i hyrwyddo gwaith yr Archifdy yn ystod Wythnos Archwilio Eich Archif.  Ein thema eleni yw ‘Ein Tref’.

Amserlen gweithgareddau Wythnos Archwilio Eich Archif 2023

27ain o Dachwedd – 3ydd o Ragfyr

Byddwn ar agor yn y Bandstand 10.00-17.30 bob dydd, oni nodir fel arall. Bydd digon o bethau i’w gweld a’u profi!

  • Y Stryd Fawr Archwilio hanes un o brif strydoedd Aberystwyth
  • Collage cymunedol: Creu Stryd Ymunwch yn ein collage cymunedol drwy creu eich ty eich hun ar ein stryd ffuglennol.
  • Lliwio mewn Aberystwyth Rhowch gynnig ar liwio mewn cardiau post o olygfeydd Aberystwyth. Yn seiliedig ar gardiau post go iawn o’n casgliadau.
  • Prosiect Deiseb Heddwch Merched Cymru Dewch i ymweld â’r stondin i gael gwybodaeth am y prosiect a sut y gallwch chi gymryd rhan.
  • Cornel BALH Gwybodaeth a deunyddiau gan Gymdeithas Hanes Lleol Prydain.

Eitemau ar werth, gan gynnwys cardiau Nadolig Archifdy Ceredigion a detholiad o hen arweinlyfrau Aberystwyth.

Rhoddion amrywiol  –  cardiau post, matiau cwrw, llyfrynnau taith tref hanesyddol Archifdy Ceredigion ar gyfer oedolion a phobl ifanc.

Cyfle i siarad gyda archifwyr go iawn!

Amserlen sgyrsiau a gweithdai.

 Dydd Llun 27/11 Agoriad 2pm

15:00 Sesiwn Gofyn yr Archifydd gyda Helen Palmer Archifydd y Sir

 Dydd Mawrth 28/11

12:00 Yr Heddlu, Y Wasg a’r Carchar: Troseddau Aberystwyth yn yr Archifdy –   sgwrs gan yr hanesydd cyfreithiol Richard Ireland.

14:00 Beth Sy’n Dda am Archifau? Sgwrs gan Bob Bennett, Aelod o Dîm     Gwasanaeth Archifau, Gwybodaeth a Rheoli Cofnodion Ceredigion.

15:00 Beth sydd yn y Bocs? Dewch i Archwilio Archifau Ceredigion  – sgwrs   gan Archifydd y Sir, Helen Palmer.

Dydd Mercher 29/11

11:00 ‘Ydi chi wedi clywed am yr Archifdy?’ sgwrs gan Mair Humphreys,   Archifydd a Rheolwr Cofnodion.

12:00 Desg Gymorth Hanes Tai (dwyieithog) gyda Tamzin Craine, Archifydd a   Rheolwr Cofnodion.

14:00 Sesiwn Gofyn yr Archifydd (dwyieithog) gyda Mair Humphreys,   Archifydd a Rheolwr Cofnodion.

Dydd Iau 30/11

11:00 Prosiect Deiseb Heddwch Merched Cymru  – sgwrs gan Sian Howys,   Swyddog Allgymorth Gymunedol

14:00 Sesiwn Gofyn yr Archifydd (dwyieithog) gyda Ania Skarżynska, Uwch   Archifydd

19:00 ‘Three Legg’d Mare: Noson o gerddoriaeth werin i ddathlu Wythnos   Archwiliwch eich Archif. Digwyddiad rhad ac am ddim â thocynnau   (tocynnau ar gael trwy Eventbrite, gweler ein tudalen Facebook/Twitter am   ragor o fanylion)

 Dydd Gwener 01/12

11:00 Mae Gennym Gynllun: Darganfod cynlluniau adeiladau Aberystwyth –   sgwrs gan Ania Skarżynska, Uwch Archifydd

14:00 Olrhain Hanes Eich Ty – sgwrs gan Helen Palmer, Archifydd y Sir.

15:00 Gofalu am Eich Dogfennau – sesiwn anffurfiol gyda Helen Palmer,   Archifydd y Sir.

Dydd Sadwrn 02/12

12:00 Ydych chi wedi clywed am yr Archifdy? Swrs (yn Gymraeg) gan Mair   Humphreys, Archifydd a Rheolwr Cofnodion

14:00 Hen Fapiau yn Archifdy Ceredigion – sgwrs gan Ania Skarżynska,   Uwch Archifydd

Dydd Sul 03/12 (cau am 4pm)

11:00 Gweithgaredd Plant – Collage Eich Ty

12:00 Beth sydd yn y Bocs? Dewch i Archwilio Archifau Ceredigion  – sgwrs   gan Archifydd y Sir, Helen Palmer

14:00 Sesiwn Gofyn yr Archifydd gyda Helen Palmer Archifydd y Sir