Drigolion ward Penparcau – pleidleisiwch

Etholiad am sedd Cyngor Sir Ceredigion

Penparcau, AberystwythPenparcau by Ian Capper, CC BY-SA 2.0 , via Wikimedia Commons

SN5885380166 from SN5942781262

Wedi pedair wythnos o ymgyrchu, mae diwrnod yr etholiad wedi cyrraedd.

Ar ddydd Iau, 16eg o Dachwedd 2023, bydd modd i etholwyr ward Penparcau (sydd yn cynnwys Tollborth y De a Maescrugiau) bleidleisio yn Neuadd Goffa Penparcau rhwng 7 y bore a 10 o’r gloch yr hwyr.

Gyda pum ymgeisydd, a 2,180 o etholwyr, mae’n debygol o fod yn etholiad prysur iawn. Roedd dros hanner yr etholwyr wedi pleidleisio yn isetholiad diweddar yn ward Llanfarian, gan obeithio y bydd yr un lefel o bleidleisio yn yr etholiad yma.

Yr ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor yw: –

  • Shelley Childs – Plaid Cymru
  • Bryony Davies – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
  • Ewan Lawry – Ceidwadwyr Cymreig
  • Alex Mangold – Llafur Cymru
  • Tomi Morgan  – ymgeisydd Annibynnol.

Mae tri o’r ymgeiswyr yn byw o fewn y ward, Shelley Childs, Alex Mangold a Tomi Morgan.

Mae wedi bod yn etholiad prysur iawn gyda chartrefi Penparcau yn derbyn sawl darn o ohebiaeth ac ymweliadau gan yr ymgeiswyr.

Cofiwch y bydd oedolion ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad yma.