Digwyddiadau Lles y Gaeaf

CAVO yn cyhoeddi chwe digwyddiad Lles Gaeaf i’w cynnal ledled Ceredigion

gan Callum Jones
Digwyddiadau-Lles-y-geaf

Mae CAVO yn falch o gyhoeddi chwe digwyddiad Lles Gaeaf sy’n cael eu cynnal ledled Ceredigion drwy fis Tachwedd a Rhagfyr wrth i ni anelu at ddod â chymunedau’n agosach at ei gilydd a hyrwyddo lles trwy fisoedd y gaeaf.

Bydd mudiadau yn ymuno â ni, gan cynnwys Papyrus, Cyngor ar Bopeth, Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, swyddfa Ben Lake AS a llawer o rai eraill sy’n darparu gwasanaethau a chyngor ariannol, iechyd neu gymdeithasol i’r gymuned.

Mae digwyddiadau Lles y Gaeaf am ddim, ac mae croeso cynnes i eistedd a sgwrsio.

Y chwe lleoliad ledled Ceredigion yw:

  • Aberystwyth – 20 Tachwedd 2023, HAHAV, Plas Antaron, Penparcau
  • Tregaron – 22 Tachwedd 2023, Neuadd Goffa Tregaron
  • Llanbedr Pont Steffan – 27 Tachwedd 2023, Pont Creuddyn
  • Llandysul – 7 Rhagfyr 2023, Calon Tysul
  • Aberaeron – 8 Rhagfyr 2023, Neuadd Goffa Aberaeron
  • Aberteifi – 13 Rhagfyr 2023, Neuadd y Guild
  • Tal-y-Bont – 15 Rhagfyr 2023, Neuadd Goffa Tal-y-Bont

Byddwn ym mhob lleoliad rhwng 2pm a 6pm. Os oes angen cyngor neu wybodaeth arnoch chi’ch hun, eich sefydliad neu’ch cymuned, mae croeso i bawb alw heibio!

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn CAVO drwy ffonio 01570 423 232 neu drwy e-bostio gen@cavo.org.uk.