Mae taith gerdded wedi ei drefnu ar gyfer 23 Medi a fydd yn mynd a chriw o gerddwyr o Bonterwyd yr holl ffordd i Lanfarian. Mi fyddwn yn ymlwybro trwy ardal ogleddol dalgylch ein papur bro ac yn mwynhau yng nghwmni ein gilydd ar hyd y daith. Mr John Williams, Bwlchbach sydd wedi bod yn ein cynorthwyo gyda chynllunio’r daith ac edrychwn ymlaen at droedio llwybrau newydd i sawl un ohonom.
Y bwriad yw dathlu ein papur bro, tra hefyd yn codi arian i gynnal y papur a chefnogi elusen bwysig iawn yn yr ardal sef HAHAV.
Mae croeso i unrhyw un ymuno gyda ni am y daith gyfan (tua 15 milltir) neu ran o’r daith. Edrychwch ar y poster am fanylion y tri rhan. Cysylltwch gydag Enfys ar y.ddolen@gmail.com am fwy o fanylion neu i gofnodi eich bwriad i gerdded.
Mae nifer o olygyddion y papur yn cerdded y llwybr cyfan! Os hoffech eu noddi, bysen yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth.
Cynhelir prynhawn coffi yn yr Hen Ysgol Capel Seion rhwng 1 a 3pm. Cyfle am baned a chlonc wrth i’r cerddwyr basio trwyddo. Derbynnir rhoddion yma tuag at y ddau achos. Galwch draw. Mae croeso i bawb.