gan
Y Ddolen (papur bro)
Mae rhifyn Chwefror o bapur bro Y DDOLEN wedi cyrraedd eich siop leol.
28 tudalen o newyddion lleol ac erthyglau diddorol.
Prynwch eich copi yn eich siop leol. Cofiwch nad yw Siop y Pethe ar agor mis yma, felly yn Aberystwyth gallwch brynu eich copi yn Siop Inc neu Premier Penparcau.
Yn rhifyn Chwefror
- Newyddion a lluniau o bentrefi’r ardal
- Nodiadau Natur gan Ann M. Davies a’r ffotograffydd Ian Sant
- Coginio gydag Eleri Hughes
- Aros i Feddwl gan Beti Griffiths
- Hanes a lluniau “Y Llew Frenin” – perfformiad ar y cyd gan ysgolion Syr John Rhys, Mynach a Pontrhydfendigaid
- Adolygiad ar ‘Geiriadur y Gair’ gan Beti Griffiths: cyfrol newydd gan Geraint Lewis, Llangwyryfon
- Cornel y Beirdd gan Mari Morgan
- Croesair gan Siân Lewis – dyma eitem boblogaidd tu hwnt! Cofiwch, pan fyddwch wedi datrys y pos a darganfod y 3 gair sy’n gysylltiedig â mis Chwefror, danfonwch eich enw atom i y.ddolen@gmail.com am gyfle i ennill tocyn rhodd llyfr gwerth £10.
- Cofio Rhiannon Roderick
Cyrhaeddodd swmp o waith ar gyfer Eisteddfod y DDOLEN ac erbyn hyn mae’r beirniaid yn pori dros y gwaith llenyddol. Edrychwn ymlaen at gyhoeddwyr enillwyr yn rhifyn Mawrth.
Hefyd yn rhifyn Mawrth, bydd erthygl am lyfr newydd “Y Sgowsar” a ymddangosodd ar glawr rhifyn Chwefror.