Dathlu yng ngofalaeth y Garn

200 mlynedd o weinidogaethu

Yr oedd Sul, 8 Hydref, yn ddiwrnod o hapusrwydd ac o ddathlu yng ngofalaeth y Garn (eglwysi’r Garn, Madog, Penllwyn, Capel Seion, a Rehoboth) yng ngogledd Ceredigion.

Sylweddolwyd bod 2023 yn flwyddyn bwysig i dri gweinidog a fu’n gysylltiedig â’r ofalaeth: eleni, drwy gyd-ddigwyddiad hapus, yr oedd y Parchedig Ddr R. Watcyn James, gweinidog presennol yr ofalaeth, yn dathlu 40 mlynedd yn y weinidogaeth, y Parchedig Ddr John Tudno Williams, gweinidog gynt yng ngofalaeth gyfagos y Borth ac sy’n dal i wasanaethu’n ffyddlon ym mhulpudau ardal y Garn, yn dathlu 60 mlynedd yn y weinidogaeth, a’n cyn-weinidog y Parchedig Wyn Rhys Morris yn dathlu 25 mlynedd ers ei ordeinio.

Nid anghofiwyd ychwaith y byddai un arall o’n cyn-weinidogion, y Parch. Elwyn Pryse, yn dathlu cynifer â 70 mlynedd ers ei ordeinio y flwyddyn nesaf. Dyna yn ddiau fwy na digon o reswm i’r eglwysi ddathlu a nodi’r cerrig milltir arbennig yn hanes y pedwar gweinidog, gan ddiolch iddynt am eu gwasanaeth nodedig, bron 200 mlynedd o weinidogaethu ffyddlon a gwerthfawr o gyfrif hyd eu gwasanaeth gyda’i gilydd.

Dechreuodd y dydd gydag oedfa i’r ofalaeth yng Nghapel y Garn, Bow Street, dan arweiniad y Parch. Ddr R. Watcyn James. Cymerwyd rhan gan aelodau o bob un o eglwysi’r ofalaeth. Wedi’r oedfa ymneilltuwyd i Westy’r Marine yn Aberystwyth, lle ymgynullodd  dros ddeugain o aelodau’r eglwysi i fwynhau cinio blasus gyda’u gwesteion.

Llywyddwyd y gweithgareddau yn ddeheuig a hwyliog gan Alwyn Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Swyddogion yr Ofalaeth. Cyflwynwyd pob un o’r gweinidogion yn eu tro, gyda geiriau pwrpasol a chynnes o werthfawrogiad gan Alan Wynne Jones, Alwyn Hughes, Eirian Hughes, a Roland Williams. Cyflwynwyd anrheg i’r pedwar gweinidog fel arwydd o’n gwerthfawrogiad ac i gofio’r achlysur, sef testun wedi ei fframio o soned a luniwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Vernon Jones ac a argraffwyd yn gain gan Huw Ceiriog, Llandre.

Yn dilyn y cyflwyniadau ymatebodd pob un o’r pedwar gweinidog yn eu tro, gan rannu rhai o’u hatgofion am eu cyfnodau yn y weinidogaeth ac yng ngwasanaeth yr ofalaeth.  Cyflwynwyd blodau i’r Parchedig Judith Morris, Mrs Lowri James, a Mrs Ina Williams gan Ann Jones, Delyth Davies, ac Olwen Jones. Ymddiheurodd Mrs Bronwen Morgan, Llywydd Henaduriaeth Ceredigion a Gogledd Phenfro, am ei habsenoldeb anorfod, ond anfonodd gyfarchiad yn gwerthfawrogi’n gynnes gyfraniadau arbennig y pedwar a anrhydeddwyd.

Dyma’r soned o waith Vernon Jones a gyflwynwyd i’r pedwar gweinidog:

I’r Pedwar

Anrhydeddwn rai a droes yn anterth eu dydd

I wynebu’r ogof heb ofni her y meini,

Ac ymbiliadau gweddi’n cryfhau eu ffydd,

Gan dderbyn oddi fry i’w tywys y dwyfol oleuni.

Buont ddygn fugeiliaid i’w preiddiau yn nrysni’r tir,

Erys eu bendithion dwys wedi’r ordinhadau,

A grym eu hargyhoeddiad drwy flynyddoedd hir

O feithrin addoliad wrth allorau ein tadau a’n mamau.

Cenhadon efengyl cariad i’r ifanc a’r hen,

Gwarcheidwaid dewr y ffydd heb laesu dwylo,

Yn taenellu’r Gair ar dir heb dorri’r ystên,

A’u cenadwrïau taer yn cyson oleuo.

Yng ngwres y dathlu dymunwn iddynt barhad

I’w hoes o wasanaeth i’r Iesu a Duw, ein Tad.

Vernon Jones

Gruffydd Aled Williams