Dathlu llwyddiant awdur o Aberystwyth

Noson arbennig ar Ben Consti i gyfarch Meleri Wyn James ar ennill y Fedal Ryddaith

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes
Meleri a chlawr amgen Hallt, gan Thom Morgan
Mererid Jones – teyrnged Mam i ferch
Nia Peris a Siân Gibson
Drudwns Aber
Angharad a Thom, gyda stondin siop Inc
Meleri a'i chyfrol arobryn, Hallt

“Daw brawddeg ar ôl brawddeg i fachu a glynu.”

Dyna eiriau Ion Thomas, un o’r beirniaid a ddyfarnodd y Fedal Ryddiaith i Meleri Wyn James yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan eleni.

Nos Iau, 28 Medi, cafodd pobl o bell ac agos y cyfle i ddathlu llwyddiant Meleri mewn noson arbennig yng nghaffi Consti – lleoliad addas iawn o gofio bod Consti ei hun bron yn gymeriad yn y nofel arobryn Hallt.

Ar ôl taith ar y trên, dyma gyrraedd caffi Consti â’i olygfa anhygoel o’r môr a’r prom, ac roedd teimlad o gyffro yn yr aer, a’r lle dan ei sang. Ond roedd hefyd teimlad o falchder, fel soniodd nifer o gyfranwyr y noson, fod Prif Lenor 2023 yn un ohonon ni!

Llywiwyd y noson yn hwyliog, yn gartrefol ac yn broffesiynol gan Sara Gibson, a chafwyd sesiwn ddifyr o holi Meleri, pan ddatgelodd yr awdur y sbardun wnaeth ysbrydoli pennod gyntaf y nofel ar draeth Llanddwyn pan oedd hithau a’r teulu yno ar eu gwyliau ddiwedd haf y llynedd. Yna daeth nifer i’r llwyfan i gyfarch yr awdur ar ei champ, gan gynnwys Maer Aberystwyth, a darllenwyd cerddi wedi eu cyfansoddi’n arbennig i Meleri gan y Prif Lenor (a bardd swyddogol tref Aberystwyth) Eurig Salisbury, Rocet Arwel Jones, Anwen Pierce a’r Prifeirdd Huw Meirion Edwards a Mererid Hopwood. Fel syrpréis i’r awdur camodd ei mam, Mererid, ymlaen i’w chyfarch hefyd.

A sôn am Mererid Hopwood, un o’i cherddi hi ddewisodd Drudwns Aber i’w lefaru, sef ‘Cer di’, a hefyd y soned ‘Esgidiau’ gan Elin Meek. Dwy gerdd o’r gyfrol Mam (Gol. Mari George, Cyhoeddiadau Barddas), oedd yn gwbl addas gan fod Hallt yn ymwneud yn bennaf â pherthynas mam a merch, a’r cyfnod pan mae Elen, y fam, yn gorfod gadael i Cari, ei merch, fynd yn fwy annibynnol, a gollwng gafael arni wrth iddi dyfu’n ddynes ifanc mewn byd llawn heriau.

“Wele fi’n gadael fynd
Heb adael fynd ychwaith.”

Cafwyd perfformiadau gan Elin Hughes, merch o Lanybydder ond sydd bellach yn byw yng Nghwm-ann. Bu Elin yn actio yn sioe fyrlymus Na, Nel! Ble mae heddwch? (gan Meleri, wedi’i seilio ar ei chyfres o lyfrau i blant) ym Mhafiliwn Boduan a chafodd y gynulleidfa eu swyno wrth iddi ganu ‘Ar lan y môr’ a fersiwn o gân Bwncath ‘Fel hyn dan ni fod’ i gyfeiliant Elwyn Williams ar y gitâr.

Er mor drawiadol yw clawr y nofel Hallt gan Sion Ilar (rhywun mae Meleri’n ei adnabod yn dda iawn, gan ei fod yn ŵr iddi!), aeth Thom Morgan ati i lunio clawr amgen ar ôl iddo yntau ddarllen y nofel. Cafodd Meleri ei chyflwyno â chopi o’r llun wedi ei fframio ganddo, ac mae printiau ar gael i’w prynu yn Siop Inc.

Gyda chymaint o dalent llenyddol, yn awduron a beirdd, a chynifer o weisg a sefydliadau cenedlaethol yn ymwneud â’r byd llyfrau yng nghyffiniau’r dref, bydd Aberystwyth mewn sefyllfa i gyflwyno cais cryf ar gyfer ennill statws byd-eang Dinas Llên UNESCO. Amdani!

Meinir Wyn Edwards