Ar ddydd Sadwrn, 16eg o Fedi, cafwyd diwrnod gwych yn dathlu Gŵyl Pen Dinas! O 400 o gacennau bach, crefft, darlithoedd a thaith – roedd rhywbeth i bob oedran.
Yn y bore, cafwyd sgwrs dywys i fyny’r fryngaer i weld y cloddiad. Dyma rai o’r cymeriadau a ddaeth ar y daith i ben y fryngaer.
Adeiladwyd tai crwn gwych, gwnaed potiau wedi’u hysbrydoli gan yr oes haearn:-
Yn y prynhawn, roedd darlith gan Toby Driver – “O’r Celtiaid i’r Rhufeiniad” heb unrhyw le i eistedd. Dyma Beca a Toby yn torri’r gacen.
Yn olaf, cafwyd darlith gan Ken Murphy yn cymharu cloddi Pendinas yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf, a’r cloddio diweddar, gan ddiolch i’r gwirfoddolwyr sydd yn cymryd rhan ar y foment
Dyma Heather o Gaffi Pendinas (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a fu’n paratoi 400 cacen fach a chacen arbennig Pendinas.
Diolch i Beca Davies a holl staff y Comisiwn Brenhinol am drefnu’r ŵyl ac i’r holl wirfoddolwyr a’r rhai wnaeth fynychu.