Eleni mae Clwb Rotari Aberystwyth yn dathlu ei 75ain blwyddyn. Edrychwn ymlaen at benwythnos i ddathlu’r haf hwn, 29-30 Gorffennaf, yn y ‘Bandstand’ ar y Promenâd: digwyddiad sy’n canolbwyntio ar y teulu gyda phaentio wynebau, adrodd straeon, corau a cherddoriaeth a chyfle i arddangos ein gwaith a gwaith yr elusennau rydym yn eu cefnogi.
Byddwn hefyd yn gosod deial haul gyda chaniatâd y Cyngor Tref a CADW ar y Gofgolofn ger y Castell fel cofeb barhaol i’r gwasanaeth y mae’r Clwb wedi ei roi i Aberystwyth ers ei sefydlu ym 1948 ac yn edrych i’r dyfodol.
Noson dathlu mis Ebrill
Cafwyd noson Siarter lwyddiannus iawn a gynhaliwyd ym mis Ebrill gyda dros 100 o westeion o bob cefndir gan gynnwys Ben Lake AS, Elin Jones , Llywydd y Senedd, y Llywodraethwr Dosbarth a mintai sylweddol o Rotariaid o Glwb Loch Ness, Inverness.
Y gŵr gwadd oedd yr Athro Carwyn Jones, y cyn-Brif Weinidog a Rotariad ei hun. Diddanwyd y gwesteion gan gyflwyniadau cerddorol swynol Cerddorion Ifanc Rotary: Ioan Mabbutt a Gruff Siôn yng nghwmni Lona Phillips eu cyfeilyddes. Codwyd £800 drwy raffl y noson er budd Prostate Cymru.
Hanes y Clwb
Sefydlwyd y Clwb am 9.23 o’r gloch ar Fawrth 15fed 1948. Rydym yn gwybod hanes y 25 mlynedd gyntaf y Clwb o’r llyfr a ysgrifennwyd gan yr ysgolhaig, Lionel White, ym 1973.
Cryfder y Clwb o’i gychwyn cyntaf oedd y cysylltiadau hawdd rhwng dynion o gefndiroedd proffesiynol gwahanol. ‘Tref a Gŵn’ ar ei orau. Adlewyrchodd aelodau’r Clwb Rotari arweinyddiaeth leol ac awdurdod trwy eu rhwydweithio a’u gweithgarwch. Rotari a ddarparodd y goeden Nadolig i’r dref gyntaf, gwasanaeth a berfformiwyd ar raddfa ehangach a mwy gan y Gorfforaeth yn y 1960au. Roedd y goeden yn gysylltiedig ag ymdrechion elusennol ar ran yr hen a’r anghenus ac â chasglu teganau i’r plant. Hen gloc y dref oedd y safle arferol ar gyfer y goeden lle cafodd y goleuadau eu cynnau gan Ei Deilyngdod y Maer. Ym 1953 codwyd y goeden ar y Promenâd: bu’r newid yn aflwyddiannus ac ym 1954 daeth yn symudol gyda chôr o aelodau’r Olwyn Fewnol a’r Rotari yn canu carolau, i gyfeiliant piano a oedd wedi’i osod ar land-rover. Bu i’r Clwb Rotari sefydlu Ffeiriau Gyrfaoedd ac arddangosfeydd yn ystod y 1950au, gweithgaredd, fel y goeden Nadolig, a gymerwyd drosodd gan y Cyngor.
Rydym wedi gwneud gwahaniaeth mewn cymaint o ffyrdd: Jasper House, Tŷ Geraint yn Ysbyty Bronglais ym mlwyddyn John Davies fel llywydd a gardd Rotari ym Mronglais dan lywyddiaeth Alun Rees i enwi dim ond rhai. Bu anturiaethau hefyd – taith lori John Bradshaw a Gareth Williams i Groatia gydag adnoddau i helpu yn y rhyfel trychinebus yno, er enghraifft.
Hanes diweddar
Ar ôl COVID, rydym yn cyfarfod dwywaith y mis yn lle’n wythnosol ac mae ein pencadlys yn dal i fod yn yr un lle ers canol y 1960au sef Gwesty’r Marine ar y Promenâd.
Mae’n debyg ein bod wedi gwneud mwy o gyfraniadau ariannol i’r gymuned leol yn Aberystwyth nag unrhyw wasanaeth neu glwb gwirfoddol arall: fe’m hysbyswyd gan ein Trysorydd, Robin Varley, ein bod ers 2013 wedi dosbarthu £34,000 i elusennau lleol yn unig drwy ein Casgliadau Nadolig. Yn ystod yr un cyfnod, rydym wedi noddi 19 o bobl ifanc lleol ar ymweliadau astudio dyngarol ledled y byd ysgoloriaethau a wnaed yn bosibl trwy gymynrodd gan Lionel White wedi’i ategu gan ein hymgyrch codi arian ein hunain . Mae’r bobl ifanc hyn wedi cymryd gwerthoedd gwasanaeth ac ymrwymiad i’r Clwb Rotari ac Aberystwyth ar draws y byd.
Rydym wedi codi 9 blwch ymgeleddi leddfu sefyllfaoedd mewn gwledydd yr effeithiwyd arnynt gan drychinebau naturiol, a’r diweddaraf yw’r un yn Nhwrci a Syria.
Rydym yn cynnal cystadlaethau ieuenctid arloesol a chlodfawr Clwb Rotari fel y Cerddor Ifanc ond hefyd y Cogydd Ifanc, y Llenor Ifanc, yn y Gymraeg a’r Saesneg, a threfnu diwrnod allan bob blwyddyn i ofalwyr ifanc: ‘Kids’ Out’.
Ein presenoldeb mwyaf gweladwy yn Aberystwyth yw’r Ffynnon Gobeithion ar y Prom ac ers 2013 drwy haelioni ymwelwyr i Aberystwyth gwnaed yn bosibl i ni, gyda Rhodd Gymorth, i gyfrannu bron £11,000 at Atal Polio ac yn fwy diweddar at Wateraid. Trwy ein tanysgrifiadau, dros yr un deng mlynedd, rydym wedi cyfrannu bron i £14,000 at elusen Rotari ei hunan, sef Sefydliad Rotari, a’i nod clodwiw o Atal Polio ledled y byd.
Rydym yn cefnogi Banc Bwyd y Storfa Jiwbilî sy’n cael ei redeg gan Eglwys y Santes Anne ym Mhenparcau. Yn ystod COVID gan na wnaethom gyfarfod am ginio, ond fe wnaethom roi’r arian y bydden ni wedi ei dalu am ginio i’r banc bwyd. Trwy ein casgliad Nadolig yn ddiweddar, rhoddwyd £1,500 i’r achos teilwng hwnnw. Yn 2019 roedd ganddynt 200 o gleientiaid y mis, ac mae hyn bellach wedi dyblu i 400.
Mae elusennau bach lleol fel DASH hefyd yn elwa o’n cefnogaeth oherwydd, fel yn genedlaethol, mae digwyddiadau codi arian yn teimlo effeithiau’r argyfwng costau byw a newidiadau cymdeithasol. Mae elusennau lleol hefyd yn gwerthfawrogi ein rhoddion oherwydd, yn wahanol i’r Loteri Genedlaethol, nid oes amodau cymhleth a lluosog.
Y dyfodol
Beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig? Mae gennym Lywydd newydd yn 2023-24, Eric Robinson, gyda Philip Evans (o Phillip Evans Estates) yn ei ddilyn yn y flwyddyn ganlynol .
Yng ngeiriau Gwyn Jenkins a luniwyd ar gyfer Noson Siarter John Harries yn 2016, disgrifir gwaith Rotari mewn cynghanedd
O droi eich rhodau droeon – eu dannedd
Sy’n denu’r holl roddion
O bob cwr yn dwr, yn don,
A fydd i’r tlawd yn foddion.
Cofiwch alw draw i’n gweld yn y Bandstand ar y Prom ar y 29ain-30ain o Orffennaf, i weld drosoch eich hunan beth rydym yn ei wneud. Ymunwch â ni, mae’n hwyl a byddwch hefyd yn rhan o fudiad sy’n gwneud daioni, yn lleol ac yn fyd-eang.
HYWEL M DAVIES
LLYWYDD CLWB ROTARI ABERYSTWYTH 2022-23