Dydd Mercher, 27 Medi, cyrhaeddodd Elfed Wyn ap Elwyn risiau’r Senedd i gyflwyno’i ddeiseb i gael rheilffordd ar hyd y gorllewin rhwng Caerfyrddin a Bangor. Roedd wedi cerdded ar hyd llwybrau rheilffyrdd hen a newydd o Fangor i Gaerdydd, trwy Aberystwyth a Chaerfyrddin. Gwnaeth hynny er mwyn tanlinellu’r angen am ailagor y rheilffyrdd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth a rhwng Afon-wen a Bangor, gan ei gwneud yn bosibl teithio rhwng de a gogledd heb orfod mynd trwy Loegr.
Un o Drawsfynydd yw Elfed, ac mae’n gynghorydd sir ar Gyngor Gwynedd, gan gynrychioli ward Bowydd a’r Rhiw yn ardal Blaenau Ffestiniog. Roedd Elfed hefyd yn byw yn Aberystwyth tra oedd yn astudio yn y Brifysgol. Mae wedi cyflawni sawl ymgyrch hyd yn hyn, gan gynnwys ympryd dros gael hanes Cymru yn rhan greiddiol o’r cwricwlwm mewn ysgolion, ond efallai dyma oedd ei ymgyrch fwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn. Mae bron i 13,000 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb ac roedd Elfed wrth ei fodd yn ei chyflwyno i nifer o Aelodau o’r Senedd ar ddiwedd taith 206 milltir. Cymerodd y daith 10 diwrnod, ac roedd yn aros gyda ffrindiau ar hyd y ffordd. Roedd Elin Jones AS, Anwen ei wraig a’i efeilliaid ymysg y parti croeso.
Cyrraedd Aberystwyth
Cyrhaeddodd Elfed orsaf rheilffordd Aberystwyth ddydd Gwener diwethaf am tua 17:30. Roedd wedi cerdded o Fachynlleth y diwrnod hwnnw, ond ymhen llai nag awr roedd ar ei ffordd i Drawsgoed! Cyn cychwyn, arhosodd am sgwrs a lluniau gyda chynghorwyr ac ymgyrchwyr lleol. Roedd yn braf gweld hen ffrind a dymuno pob lwc iddo ar ei daith. Yn amlwg, mae gan Aberystwyth ryw ddawn hudol o ddenu cyn-fyfyrwyr yn ôl i ymweld yn gyson – hyd yn oed os ydyn nhw’n gorfod cerdded milltiroedd i gyrraedd y dref!
Cau’r Lein: cam yn ôl
Caewyd y lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i deithwyr yn 1964/1965 (mewn rhannau) a’r lein rhwng Afon-wen a Bangor yn 1964 fel rhan o doriadau Beeching. Gadawyd bylchau mawr yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru ac ers hynny mae’n amhosibl teithio ar y trên trwy Gymru o Aberystwyth i Fangor nac i Gaerfyrddin. Yn wir, mae galwadau wedi bod i ailagor y lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin ers ei chau. Yn ddiweddar, mae ymgyrch Traws Link Cymru wedi bod yn galw am ailadeiladu’r rheilffyrdd hyn a chafwyd cryn ddiddordeb yn y mater, gan ysgogi astudiaeth gychwynnol i ystyried sut i ailagor y lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Uno Cymru
Dywed Elfed y byddai ailadeiladu’r rheilffyrdd yn “uno” Cymru ac yn gwella economi’r gorllewin – rhywbeth allweddol i ardaloedd lle mae cymunedau a’r Gymraeg yn dioddef oherwydd diffyg swyddi da a gweithgaredd economaidd.
Dywedodd wrth S4C yn gynharach yr wythnos hon: “Dwi’n credu’n gry’ iawn bod angen cyswllt pendant rhwng y gogledd a de Cymru.
“Mae llawer iawn o bobol yn gorfod gadael eu cymunedau, yn enwedig yn y canolbarth a’r gogledd, a mynd i lawr am Gaerdydd, oherwydd eu bod nhw’n chwilio am waith.
“Ond dwi’n gweld rheilffordd yn ffordd ma’ rhywun yn gallu aros yn y gymuned, a theithio ’nôl a ’mlaen yn rhwyddach.
“Dwi’n meddwl am gymunedau fel Tregaron a Llanbedr Pont Steffan. Ma’ nhw’n teimlo mor bell rŵan, ond pan o’dd rheilffordd yn mynd drwy’r cymunedau yma, ro’dd hi fel gwythïen oedd yn cysylltu’r bobol a’r fasnach yn y trefi a’r ardaloedd yma.
“Dwi’n meddwl ei fod o’n allweddol i ni blethu’r cymunedau Cymreig ’ma at ei gilydd er mwyn rhoi dyfodol pendant a sicr iddyn nhw.”
I’r dyfodol
Nid dyma ddiwedd y daith o bell ffordd ac yn sicr, o nabod Elfed, mae ganddo lawer mwy i’w gynnig. Mae’r ddeiseb bellach yn nwylo’r Senedd ond mae llawer o waith yn parhau ar lawr gwlad i droi’r breuddwyd yn realiti.
Sut fyddai hyn yn cael ei ariannu? Mae Elfed yn cyfeirio at y ffaith bod HS2 yn cael ei ystyried fel prosiect Lloegr a Chymru, er na fydd dim traciau yng Nghymru. Pe tasai Cymru’n cael cyfran deg o’r gwariant, mae rhai wedi amcangyfrif y byddai Cymru yn cael £5bn i’w fuddsoddi yn ei seilwaith rheilffyrdd ei hun.
Mae Traws Link Cymru hefyd yn edrych dros y môr i Iwerddon, lle mae rheilffordd wedi cael ei hailagor i deithwyr am y tro cyntaf ers y 1970au er mwyn cysylltu cymunedau ynysig yng Ngorllewin Iwerddon. Mae’r prosiect wedi rhoi bywyd newydd i’r cymunedau ar hyd y lein.
Mae Elfed wedi dweud droeon ei fod yn gwneud hyn dros ei blant. Pwy a ŵyr, efallai y bydd ei blant yn dod i astudio yn Aberystwyth yn y dyfodol fel eu tad – ond yn cyrraedd ar y trên!