Cyhoeddi cyfrol wedi ei ysbrydoli gan waith darlithydd lleol

Cyfrol arbennig i un o drigolion Dolau

WILLIAMS-Gruffydd-Aled

Ar ddydd Mercher, y 9fed o Awst 2023, lansiwyd cyfrol arbennig i ddathlu gwaith y darlithydd gweithgar, Gruffydd Aled Williams.

Mae’n cynnwys casgliad o ysgrifau wedi eu hysbrydoli gan feysydd ymchwil yr Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams, yn deyrnged iddo am ei gyfraniad nodedig i’r byd academaidd. Golygwyd y gwaith gan Bleddyn Huws o Dalybont ac T Robin Chapman, ill dau yn ddarlithwyr yn Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.

Pwy yw Gruffydd Aled Williams?

Mae Gruffydd Aled wedi addysgu cenedlaethau yn ei waith fel darlithydd ond roedd hefyd wedi arbenigo mewn barddoniaeth ganoloesol a llenyddiaeth y Dadeni.

Magwyd ef yn Ninmael, sir Ddinbych, a Glyndyfrdwy, a’i addysgu yn Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy, Ysgol Ramadeg Llangollen (Ysgol Dinas Brân yn ddiweddarach) a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Graddiodd yn y Gymraeg yn 1964. O 1965 i 1970, bu’n Ddarlithydd Cynorthwyol yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, ac o 1970 bu’n Ddarlithydd, yn Uwch Ddarlithydd (1984) ac yn Ddarllenydd (1991) yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor.

Ym 1995, fe’i penodwyd yn Athro’r Gymraeg ac yn Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach), a bu yn ei swydd hyd nes ei ymddeoliad yn 2008. Mae bellach yn Athro Emeritws yn y Brifysgol.

Mae Gruffydd Aled Williams yn awdur dros 50 o erthyglau ar farddoniaeth ganoloesol a llenyddiaeth y Dadeni mewn cyfnodolion a chylchgronau academaidd ar farddoniaeth ganoloesol a llenyddiaeth y Dadeni. Enillodd ei lyfr Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (1986) Wobr Syr Ellis Griffith Prifysgol Cymru. Yn 1994 cyhoeddodd argraffiad o’r farddoniaeth a briodolir i Owain Cyfeiliog.

Wedi ymddeol mae wedi canolbwyntio ei ymchwil ar hanes Owain Glyndŵr a’r llenyddiaeth sy’n gysylltiedig ag ef. Traddododd Darlith Goffa Syr John Rhŷs yr Academi Brydeinig yn 2010 ar “Mwy na ‘skimble-skamble stuff’: the Medieval Poetry Associated with Owain Glyndŵr” (cyhoeddwyd 2012), ac yn 2013 cyfrannodd ddwy erthygl i Owain Glyndŵr: Coflyfr.

Yn 2016 enillodd ei lyfr Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr (2015) y categori Ffeithiol Creadigol yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru.

Bu’n golygu Llên Cymru, y cyfnodolyn academaidd mwyaf blaenllaw ym maes hanes llenyddol Cymru, o 1997 hyd 2012.

Mae’n Llywydd Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ac yn aelod o Gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion.

Etholwyd ef i Urdd y Wisg Wen yng Ngorsedd y Beirdd yn 2002 ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2014.

Mae’r llyfr ar gael am £19.99 yn eich siop lyfrau leol.