Cydnabod cyfraniad arbennig

Dau wedi rhoi cyfraniad oes i Aberystwyth

gan Cyngor Tref Aberystwyth
Maer

Yn ogystal â’r Seremoni traddodiadol i sefydlu Maer newydd Cyngor Tref Aberystwyth, fe gyflwynwyd Medalau Cyfraniad Arbennig i ddau aelod o’r RNLI am y tro cyntaf erioed.

Yn y Seremoni, fe wnaeth y Maer newydd, y Cynghorydd Kerry Ferguson, gyflwyno medalau Cyfraniad Arbennig y Cyngor Tref i Richard Griffiths BEM a David Jenkins MBE am eu gwasanaeth hir i’r Bad Achub fel gwirfoddolwyr.

Meddai’r Maer, y Cynghorydd Kerry Ferguson, ‘

Rhyngddynt fe roes Richard Griffiths BEM a David Jenkins MBE 110 o flynyddoedd i’r Bad Achub ac mae’n bleser gan y Cyngor Tref i gydnabod hyn trwy gyflwyno Medalau Cyfraniad Arbennig cyntaf Aberystwyth iddynt.

Meddai,

Mae medalau’r Cyngor Tref wedi cael ei dylunio yn lleol ac wedi cael eu gwneud o arian. Fe welir arnynt y ddwy afon a thon y môr sy’n addas iawn o gofio mai gwirfoddoli i achub pobl mewn anhawster ar y môr bu Richard a David yn ei wneud trwy gydol eu hoes.’

Meddai’r Kerry Ferguson y Maer:

Braf oedd gweld y dorf yn y Llyfrgell Genedlaethol yn codi ar ei thraed i ddiolch i Richard Griffiths BEM a David Jenkins MBE am eu cyfraniad. Mae’r Cyngor Tref yn hapus iawn i gydnabod eu cyfraniad trwy roi iddynt y Medalau Cyfraniad Arbennig cyntaf erioed.