Cwrw Cader Ales yn parhau traddodiad balch ar ôl ei brynu

Mae’r bragdy Cwrw Cader Ales, yn falch iawn o gyhoeddi perchnogaeth newydd.

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson
Cwrw Cader Ales

Mae’r bragdy annibynnol, Cwrw Cader Ales, yn falch iawn o gyhoeddi ei fod yn cael perchnogaeth newydd, i warantu y bydd ei draddodiad bragu Cymreig yn parhau. Mae Meurig Jones-Evans, Emlyn Wyn Jones, a Kerry Ferguson wedi camu i’r adwy fel menter ar y cyd, wedi ymrwymo i barhad y bragdy annwyl a’r dreftadaeth gyfoethog y mae’n ei ymgorffori.

Ers 2012, mae Cwrw Cader Ales wedi cael ei ysbrydoli gan gefndir mawreddog Cader Idris ac yr Afon Mawddach sy’n crynhoi ysbryd Eryri. Mae’r cyfarwyddwyr newydd yn rhannu angerdd a pharch y bragdy tuag at dreftadaeth Cymru ac maent yn awyddus i gynnal ac ehangu ei enw da.

“Mae enw Cwrw Cader Ales yn sefyll am ansawdd, traddodiad, a blas unigryw Cymru. Rydym yn falch o ymgymryd â’r fantell a hyrwyddo gwaddol y bragdy eiconig hwn,” meddai Kerry Ferguson, un o’r cyfarwyddwyr newydd.

Bydd y camau cyntaf ar gyfer y rheolaeth newydd yn cynnwys ailsefydlu lefelau stoc, gan sicrhau gall y selogion ‘cwrw go iawn’ fwynhau blas unigryw Cwrw Cader Ales unwaith eto.

Mae’r symudiad strategol hwn nid yn unig yn arwydd o dwf ac esblygiad y cwmni ond hefyd yn sicrhau bod ei ddulliau bragu yn parhau i fod wedi’u gwreiddio yn y fro Gymraeg. Bydd ffocws ar y cyd ar gynnal a hyrwyddo’r Gymraeg yn gonglfaen arall i gyfeiriad y rheolwyr newydd, gan atgyfnerthu cysylltiadau Cymreig dwfn Cwrw Cader Ales.

Pwysleisiodd Meurig Jones-Evans, un arall o’r cyfarwyddwyr newydd, bwysigrwydd y Gymraeg yn nhaith y bragdy. “Rydym yn falch o fod yn rhan o fusnes sy’n gwerthfawrogi ei dreftadaeth ieithyddol a diwylliannol,” meddai. “Mae Cwrw Cader Ales wastad wedi bod yn ymwneud â mwy na bragu yn unig – mae’n ymwneud â chynrychioli Cymru, ac rydym yn awyddus i barhau â hynny.”

Gyda dyfodol cyffrous o’n blaenau, mae Cwrw Cader Ales yn edrych ymlaen at gadw y bragu traddodiadol yn fyw, gan ychwanegu joch o ysbryd arloesol i gwrw blasus unigryw y mae’r rhai sy’n caru cwrw crefft wedi dod i’w ddisgwyl.

“Rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i fwynhau ein cwrw wrth i ni gychwyn ar y bennod newydd gyffrous hon. Dyma i ddyfodol Cwrw Cader Ales!” ychwanegodd Emlyn Wyn Jones, trydydd cyfarwyddwr y fenter ar y cyd.