Cofio Protest Pont Trefechan

Protestwyr gwreiddiol yn dychwelyd i faes y gad.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Protestwyr 1963 wrth Bont Trefechan
Protest Pont Trefechan 1963Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Wikimedia Commons)

Protest Pont Trefechan 1963: Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Aled-Gwyn

Y Prifardd Aled Gwyn yn hel atgofion am y brotest wreiddiol.

Swyddfa'r Post Aberystwyth

Y dorf yn dechrau ymgynnull o flaen yr hen swyddfa’r post.

Ffred Ffransis

Ffred Ffransis yn annerch y dorf.

I nodi 60 mlwyddiant protest Pont Trefechan cynhaliwyd taith gerdded gan Gymdeithas yr Iaith o gwmpas Aberystwyth. Yn dechrau ar Bont Trefechan, aeth y daith yn ei blaen i ymweld â lleoliadau arwyddocaol yn Hanes y Gymdeithas gan gynnwys lleoliadau protest neu hen swyddfeydd y Gymdeithas gan gynnwys yr hen swyddfa bost, Siop y Pethe a hen swyddfa’r heddlu. Ymhob lleoliad cafwyd pwt o hanes yr ymgyrchu, y dwys a’r digri, gan rai a fu’n allweddol i’r frwydr dros y blynyddoedd.

Rhan allweddol o’r dathlu oedd presenoldeb nifer oedd yn y brotest wreiddiol ar Bont Trefechan yn 1963 a chafwyd cyflwyniad iddynt yn Festri Seion ar ddiwedd y daith.

Dyma rai lluniau o’r daith ynghyd â llun o’r brotest wreiddiol gan Geoff Charles o gasgliad ffotograffiaeth y Llyfrgell Genedlaethol.

Am fwy o hanes y brotest wreiddiol, gweler cyfweliad gyda Llinos Dafis ar BBC Cymru Fyw: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/64485565

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.