Ymddiheuriadau, mae’r ddolen i’r erthgl ddim yn gweithio er fod y cyfeiriad yn gywir. Dyma’r ddolen unwaith eto: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/64485565
I nodi 60 mlwyddiant protest Pont Trefechan cynhaliwyd taith gerdded gan Gymdeithas yr Iaith o gwmpas Aberystwyth. Yn dechrau ar Bont Trefechan, aeth y daith yn ei blaen i ymweld â lleoliadau arwyddocaol yn Hanes y Gymdeithas gan gynnwys lleoliadau protest neu hen swyddfeydd y Gymdeithas gan gynnwys yr hen swyddfa bost, Siop y Pethe a hen swyddfa’r heddlu. Ymhob lleoliad cafwyd pwt o hanes yr ymgyrchu, y dwys a’r digri, gan rai a fu’n allweddol i’r frwydr dros y blynyddoedd.
Rhan allweddol o’r dathlu oedd presenoldeb nifer oedd yn y brotest wreiddiol ar Bont Trefechan yn 1963 a chafwyd cyflwyniad iddynt yn Festri Seion ar ddiwedd y daith.
Dyma rai lluniau o’r daith ynghyd â llun o’r brotest wreiddiol gan Geoff Charles o gasgliad ffotograffiaeth y Llyfrgell Genedlaethol.
Am fwy o hanes y brotest wreiddiol, gweler cyfweliad gyda Llinos Dafis ar BBC Cymru Fyw: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/64485565