Codi’r to mewn noson gabare

Mwy o ddathliadau hanner canmlwyddiant Ysgol Penweddig!

gan Elin Mair Mabbutt
IMG_2730

Yr artisitiaid a fu’n perfformio yn y Noson Gabaret – i gyd yn gyn-ddisgyblion Ysgol Penweddig

IMG_2667

Ann a Mo Cheggaf yn dathlu penblwydd Mo hefyd yn 50!

PXL_20230916_192046938.MP_

Nia Elin a Trystan ap Owen

IMG_2699

DJ Roughion (Gwion ap Iago)

PXL_20230916_192131709.MP2_

Rhys Taylor a’r band

PXL_20230916_192240292

Georgia Ruth

PXL_20230916_212722803

Diweddglo arbennig i’r noson

Wedi prynhawn hwyliog dros ben yn hel atgofion a chwrdd â hen ffrindiau wrth ddathlu hanner canmlwyddiant Ysgol Penweddig, bu i bawb ymgynnull gyda’r hwyr yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar gyfer noson arbennig o ddathlu.

Roedd pawb a gamodd ar y llwyfan yn Noson Cabaret Penweddig 50 yn gyn-ddisgyblion yn yr ysgol, gyda’r arlwy cerddorol wedi ei drefnu’n gelfydd gan Rhys Taylor, cyfarwyddwr cerdd y noson.

Cafwyd dechrau arbennig i’r noson gyda’r DJ Roughion (Gwion ap Iago) yn diddanu’r gynulleidfa yn ardal y bar wrth i bawb gyrraedd. Yna, i mewn yn y Neuadd Fawr fe agorwyd y cyngerdd gan y band Mellt, sef enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2018.

Yn ogystal â hyn cafwyd perfformiadau anhygoel gan Georgia Ruth a Sam Ebenezer; fe’n diddanwyd gan y comedïwyr stand-yp Aled Richards ac Eleri Morgan, ac fe berfformiwyd eitemau clasurol gan Bethan Dudley Fryar a Richard Maldwyn James.

Yn cyfeilio i’r noson yr oedd band anhygoel a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, gyda Rhys Taylor a Rhodri Taylor ar y chwythbrennau, Twm Dylan ar y gitâr fas, Dan Lawrence ar y gitâr, Gwion Phillips ar y drymiau a Lowri Guy ar yr allweddellau.

Arweiniwyd y noson gan y dawnus Nia Elin a Trystan ap Owen, y ddau wrth eu boddau yn cael cyfle i hel atgofion gydag ambell un yn y gynulleidfa wrth i’r noson fynd yn ei blaen. Hefyd, fe ddarlledwyd nifer o gyfarchion ar sgrin fideo wedi eu derbyn gan gyn-ddisgyblion sydd bellach ym mhedwar ban y byd.

Yn glo teilwng a hwyliog i’r noson fe berfformiwyd ‘Yma o Hyd’ wrth i ddisgyblion presennol yr ysgol, drwy gyfrwng fideo, ymuno â’r artistiaid llwyfan yn ogystal â’r gynulleidfa gyfan ar ei thraed a phawb yn morio canu! Dyma gwmpasu’r noson yn berffaith – dathlu doniau a thraddodiad y gorffennol, ymfalchïo yn y presennol ac edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol ac i’r hanner can mlynedd nesaf.

Diolch o waelod calon i bawb wnaeth gefnogi’r noson arbennig hon –rhieni, staff, cyn-athrawon, cyn-ddisgyblion a ffrindiau Penweddig.