Cloi tymor Cymdeithas y Garn

Mair Tomos Ifans yn diddanu

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Cafwyd noson hyfryd nos Wener, 17 Mawrth, i gloi tymor llwyddiannus Cymdeithas Lenyddol y Garn, Bow Street. Oherwydd amgylchiadau, doedd hi ddim yn bosib i Gwenan Gibbard ddod atom i’n noson i ddathlu Gŵyl Ddewi.

Ond camodd Mair Tomos Ifans i’r adwy ar y funud olaf, a chafwyd noson amrywiol iawn yn ei chwmni. Yn ei dull cartrefol a hwyliog, cyflwynodd Mair ganeuon traddodiadol a chyfoes i gyfeiliant ei gitâr a’i thelyn, yn ogystal â dangos dawn y cyfarwydd i gyfareddu cynulleidfa yn adrodd chwedlau.

Cyflwynwyd Mair gan Llio James, Cadeirydd y Gymdeithas, a chafwyd gair o ddiolch gan y Parch Watcyn James.

Bydd cyfarfod cyntaf tymor nesaf y Gymdeithas nos Wener, 20 Hydref – croeso cynnes i unrhyw un ymuno!