Cefn y Rhwyd 24.4.23

Rhifyn yr wythnos hon o bodlediad pêl-droed Cered: Menter Iaith Ceredigion

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Mae pob penwythnos yn ddramatig yn y byd pêl-droed, wrth gwrs, ond roedd y penwythnos diwethaf yma’n un dramatig iawn gyda buddugoliaeth gwbl angenrheidiol Aberystwyth ar ddiwrnod olaf y tymor i sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru am flwyddyn arall.

Gwerth gwrando felly ar rifyn yr wythnos hon o Gefn y Rhwyd, gyda Steff Rees yn cyflwyno ac Oisin Lludd, Gwion Hefin a Gwenllian Mason o Gynllun Gohebwyr Chwaraeon Ifanc Cered, yn ymuno fel gwybodusion.

Cliciwch yma i wrando ar y sioe ar dudalen Facebook Cered a Cymru Sport: https://fb.watch/k6lalq5DME/

Rhai o bynciau trafod y sioe:

  • Dyrchafiad Wrecsam
  • Ydy Caerdydd yn ddiogel yn y Bencampwriaeth?
  • Hynt a helynt Uwch Gynghrair Lloegr
  • Gemau cynderfynol trawiadol Cynghrair y Pencampwyr

I wrando ar y podlediad yn fyw, ewch i wefan Cymru Sport am hanner dydd bob dydd Llun.