Cefn y Rhwyd 12.06.23

John Jones yn cadw cwmni i Steff a Rhodri yr wythnos hon

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Yr wythnos diwethaf, ar ‘Cefn y Rhwyd’, trafod buddugoliaeth Dinas Manceinion yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA roeddwn i a fy ngwestai, Siôn Lloyd Edwards. A Man City oedd un o’r pynciau llosg yr wythnos hon eto ar bodlediad pêl-droed Cered wedi eu buddugoliaeth yn Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Gwestai’r wythnos hon oedd John Jones, CPD Sêr Dewi, sydd hefyd yn gefnogwr brwd o Wolves a’r timau Cymreig. Hefyd, roedd fy nghyd-gyflwynydd Rhodri Francis yn dychwelyd i’r podlediad.

Hefyd ar ‘Cefn y Rhwyd’ yr wythnos hon:

  • Llwyddiant Ewropeaidd West Ham
  • Newid rheolwyr Abertawe a Chaerdydd
  • Gobeithion Cymru yn erbyn Armenia nos Wener

I wrando ar y podlediad, cliciwch isod a chofiwch rannu gyda ffans ffwtbol eich cartref.

Gwrando nawr