Cefn y Rhwyd 05.06.23

Siôn Lloyd Edwards, cefnogwr Man City, yn sedd y gwestai i drafod wythnos fawr yn hanes y clwb

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Yn dilyn buddugoliaeth Dinas Manceinion dros eu gelynion pennaf, Manceinion Unedig, yn rownd derfynol Cwpan yr FA brynhawn dydd Sadwrn, un o’u cefnogwyr brwd lleol, Siôn Lloyd Edwards, oedd yn ymuno fel gwestai’r wythnos hon ar ‘Cefn y Rhwyd’ – podlediad pêl-droed wythnosol Cered.

Yn hanu o Ruthun, mae Siôn newydd orffen ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae hefyd yn chwarae fel gôl-geidwad i dîm cyntaf y Brifysgol. Yn gefnogwr brwd o Wrecsam hefyd, roedd yn ddewis naturiol i ymuno â Steff Rees am sgwrs heddiw.

Yn ogystal â thrafod y gêm hon, dyma rhai o bynciau trafod eraill y sioe:

  • Ydy Man City am ennill y trebl trwy ychwanegu tlws Cynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn yma?
  • Ymddeoliad Ibrahimovic, a Benzema yn mynd am y Dwyrain Canol
  • Gobeithion Wrecsam wedi eu dyrchafiad
  • Rheolwr newydd Caerdydd, Martin am adael Abertawe, a charfan Cymru ar gyfer Armenia a Thwrci.

I wrando ar y podlediad, cliciwch uchod a chofiwch rannu gyda ffans ffwtbol eich cartref.