gan
Steff Rees (Cered)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2023/05/Cefn-y-Rhwyd-2-1-640x396.jpg?0)
Cyhoeddodd CPD Aberystwyth yn ddiweddar fod Dilwyn Roberts yn dychwelyd at y rôl o fod yn Olygydd rhaglen y clwb ar gyfer y tymor nesaf a braf oedd cael ei gwmni unwaith eto ar Cefn y Rhwyd i drafod ei gynlluniau a llawer mwy yn ystod rhifyn yr wythnos hon o bodlediad pêl droed Cered.
Cliciwch yma i wrando ar y sioe ar dudalen Facebook Cered a Cymru Sport: https://fb.watch/kIBUsTo71n/
Rhai o bynciau trafod y sioe:
- Edrych ymlaen at dymor arall yn yr Uwch Gynghrair i Aberystwyth
- Bow Street yn cloi tymor cofiadwy gyda gêm rownd derfynol fawr
- Llanilar yn teithio ymhell ac yn gorffen y tymor yn barchus
- Arsylwadau Stoke o’r frwydr am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr
I wrando ar y podlediad yn fyw, ewch i wefan Cymru Sport am hanner dydd bob dydd Llun.
Bydd y rhifyn nesaf ymhen pythefnos oherwydd Gŵyl y Banc.