gan
Steff Rees (Cered)
Digon prin yw cefnogwyr Blackburn Rovers yn ardal Aberystwyth ac yn enwedig rhai Cymraeg. Felly, rhaid oedd gwahodd Gwilym Morgan o Adran Adnoddau Dynol Cyngor Sir Ceredigion i stiwdio Cefn y Rhwyd am sgwrs.
Cliciwch yma i wrando ar y sioe ar dudalen Facebook Cered a Cymru Sport: https://fb.watch/ky13G_FK8w/
Rhai o bynciau trafod y sioe:
- Cofio dyddiau da y Riversiders
- Gemau ail gyfle cyffrous ar bron pob haen
- Southampton – y cyntaf i ddisgyn
- Hwlffordd yn cyrraedd Ewrop
I wrando ar y podlediad yn fyw, ewch i wefan Cymru Sport am hanner dydd bob dydd Llun.