Canolfan Hamdden Plascrug ar Gau Dros Dro

Oherwydd difrod i’r to, mae’r Ganolfan wedi gorfod cau heddiw (Llun, 13/3/23)

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Canolfan Hamdden Plascrug

Yn dilyn y gwynt cryf, bu rhaid cau Canolfan Hamdden Plascrug (y Ganolfan) a’r maes parcio heddiw yn sgil difrod i’r to. Mae tudalen Facebook y Ganolfan yn nodi y bydd ar gau am weddill y dydd a tan i’r to gael ei drwsio / ei wneud yn ddiogel. Maent yn Gobeithio ail-agor yfory, sef dydd Mawrth (14/3), ond  ewch i dudalen Facebook neu gyfrif Trydar y Ganolfan i wneud yn siŵr ei fod wedi ail-agor cyn mentro draw.

1 sylw

Huw Llywelyn Evans
Huw Llywelyn Evans

Newyddion da. Mae’r Ganolfan bellach wedi ail-agor (14/03).

Mae’r sylwadau wedi cau.