Caffi Cegin Cynnes ar y brig

Sgiliau busnes ardderddog yn Ysgol Penweddig

Ysgol Penweddig
gan Ysgol Penweddig
caffi-Cegin-Cynnes
10x-challenge

Tystysgrif yr enillydd

Llongyfarchiadau mawr i Esther, Martha ac Emrys o Ysgol Penweddig ar ennill y wobr gyntaf am y busnes gorau yn y categori 15 mlwydd oed a hŷn yn y Deyrnas Unedig yng ngwobrau 10X Challenge Young Enterprise.

Mae’r Her 10X 2023 yn rhedeg o 27 Chwefror i 24 Mawrth bob blwyddyn, gyda’r bwriad i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu meddylfryd mentrus a pharatoi ar gyfer byd gwaith wrth iddynt greu eu busnes eu hunain gyda dim ond £10.

Maent yn defnyddio’r £10 a ddarperir i ddechrau busnes, dod o hyd i ddeunyddiau neu gynhyrchion, paratoi cyflwyniadau gwerthu, a chynllunio digwyddiadau gwerthu. Bydd y myfyrwyr yn paratoi eu cynnyrch neu wasanaeth ac yn hyrwyddo eu digwyddiadau gwerthu. Ar ddiwedd yr Her, bydd y myfyrwyr yn penderfynu sut i wario eu helw neu ei gyfrannu fel rhodd ar ôl ad-dalu’r ernes £10 yn ogystal â chyfraniad gwaddol o £1 i gefnogi’r banc 10X.

Gallwch wylio fideo’r ymgeiswyr llwyddiannus yma ar waelod y sgrin ac yn dechrau ar ôl 15 munud.

Llongyfarchiadau i chi gyd.