Burum yn codi hwyliau

Roedd y cyfuniad o gerddoriaeth jas a gwerin yn plesio pawb o bob oed.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Burum

Burum – Amgueddfa Ceredigion

Braf oedd gweld Amgueddfa Ceredigion yn llawn dop i roi croeso ‘nôl i Aberystwyth i’r brodyr Williams, sef Tomos a Daniel, ynghyd â gweddill aelodau’r grŵp Burum. Cafwyd dehongliad o alawon traddodiadol Cymraeg ac ambell alaw fwy diweddar mewn arddull jas. O’r agoriad Pontypridd i’r encore Hiraeth am Feirion, roedd perfformiad Burum yn cyfareddu’r dorf. Roedd chwarae byrfyfyr yr aelodau i gyd yn ychwanegu i’r cymysgedd –  Tomos (trymped), Daniel (sacsoffon), Dave Jones (piano), Aidan Thorne (bas dwbl), Mark O’Connor (drymiau) a Patrick Rimes (pibau cwd a ffliwt) yn ychwanegu naws mwy gwerinol.

Mae’r Amgueddfa bron a dod yn ail gartref i Daniel a Tomos yn Aberystwyth wrth iddynt berfformio yno sawl gwaith y flwyddyn. Yn ddi-os mae natur acwstig arbennig yr hen theatr yn atynfa.

Roedd yn galonogol gweld degau o ddisgyblion TAGU a Lefel A yn mwynhau mas draw ac mae’n rhaid canmol y cydweithio rhwng yr Amgueddfa ac athro cerdd Penglais yn rhoi cyfle iddynt ehangu eu gorwelion cerddorol. Yn ôl y cymeradwyo brwd roedd yn arbrawf yn llwyddiant mawr.