Bron i gant yn cyflawni her y Barcud Coch

Canlyniadau llawn Ras y Barcud Coch

gan Rhedeg Aber
IMG_20230429_134519321

Jacob Tasker yr enillydd

Does dim llawer o rasys sydd mor anodd â Ras y Barcud Coch, gydag elltydd a rhiwiau sylweddol uwchlaw Pontarfynach.

Oherwydd salwch Dic Evans, Tomos Roberts oedd un o’r trefnwyr. Mae Dic, a ddioddefodd strôc dros y Nadolig ac sydd ar hyn o bryd yn parhau i dderbyn gofal yn ward strôc ysbyty Bronglais, ac roedd yn emosiynol iawn i gael ymuno yn y bwrlwm.

Dywedodd Tomos:

Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn dangos i Dic pa mor werthfawr oedd ei anogaeth i redeg, ac na fyddai nifer ohonom wedi gallu rhedeg y ras yma heb ei help.

O fewn y pump uchaf o’r 96 gyflawnodd yr hanner marathon eleni, roedd: –

  1. Jacob Tasker
  2. Ollie George
  3. Jake Collier
  4. Wyndham Turner
  5. Owain Schiavone (sydd o Aberystwyth ond gyda Chlwb Athletau Caerdydd)
IMG_20230429_134519321
Jacob Tasker yr enillydd

Gorffennodd Owain mewn amser o 1 awr 41 munud sydd 4 munud yn well na’r un ras llynedd.

Owain hanner ffordd

Rhedwr lleol eraill oedd Ieuan Pugh-Jones (15fed mewn amser o 1 awr 52 munud) a Rhodri ap Dyfrig (16ain mewn amser o 1 awr 53 munud). Richard Anthony oedd yr aelod cyflymaf o Glwb Rhedeg Aberystwyth mewn amser o 2 awr.

James Cowan o Brifysgol Aberystwyth a Stephen Curbishley o Redwr Rossendale (8fed a 10fed)
Tomos Roberts a Rhodri ap Dyfrig

Ffion Price o glwb rhedeg Llanfair-ym-Muallt oedd y ferch gyntaf i orffen (yn ogystal â bod y ferch gyntaf i orffen ras Nant yr Arian yn gynharach yn yr wythnos.

Mae rhestr lawn o ganlyniadau ar gael yma.

Ras 10km

Cwrs heriol oedd yn wynebu’r rhai yn y ras 10 km hefyd gyda 60 yn cwblhau’r ras. O fewn y 5 uchaf, roedd Llŷr ap Einion (aelod o Glwb Prifysgol Aberystwyth) yn bedwerydd ac yn cwblhau o fewn 57 munud. Cyflawniad anhygoel i gwblhau o fewn yr awr.

Aelod arall o Dîm Rhedeg Aberystwyth yw Shan Lawson a gyflawnodd yn yr amser o 1 awr 17 munud, gyda Clive Williams (Prifathro Ysgol Gymraeg) o fewn munud yn cyflawni mewn 1 awr 18 munud, gydag Arthur Dafis eiliad ar ei ôl. Llongyfarchiadau hefyd i Deian Creunant a Louise Amery a’r holl ymgeiswyr eraill.

Mae canlyniadau llawn ar gael yma.

Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl, gyda’r plant yn cwblhau ras 3km a 6km yn y bore, a cherddwyr yn cwblhau 10km a’r hanner marathon.

Mae incwm y rasys yn mynd tuag at elusen Sialens y Barcud Coch eleni, sef ward strôc Ysbyty Bronglais. Manylion llawn ar http://redkite-barcudcoch.org.uk/