Pen-blwydd hapus, Iwcadwli!

Sengl gyntaf cerddorfa Gymreig iwcalilis Aberystwyth a’r cylch yn cael ei rhyddhau

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Sengl Gyntaf Iwcadwli: ‘Eneidiau Hoff, Cytûn’ – cliciwch yma i wrando ar y gân

Mae Iwcadwli, sef cerddorfa Gymreig iwcalilis Aberystwyth a’r cylch, sy’n cael ei rhedeg gan Cered, yn bump oed ym mis Hydref. I ddathlu’r achlysur, maent wedi rhyddhau’r gân wreiddiol ‘Eneidiau Hoff Cytûn’ fel eu sengl gyntaf.

Phil Davies, un o hoelion wyth Iwcadwli, sydd yn gyfrifol am y geiriau hyfryd a Steff Rees, yr arweinydd, sydd yn gyfrifol am y gerddoriaeth fywiog. Bu’r ddau’n cydweithio tipyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar ganeuon ar gyfer ail albwm y grŵp Bwca sydd wedi ei rhyddhau’n ddiweddar, ac un diwrnod penderfynodd y ddau droi eu sylw at greu cân i ddathlu pen-blwydd Iwcadwli.

Yn gerddorol, mae’r gân hon yn llawn ysbryd oes euraid yr iwcalili gyda’i strymio cyflym, cordiau annisgwyl a hyd yn oed solo casŵ. Neges y gân yw fod holl aelodau Iwcadwli yn wahanol iawn i’w gilydd ond eto, pan ddaw pawb at ei gilydd, maent yn uno fel un band:

‘Pan y down ni yn un criw a’n miwsig ar y stand,
Ni fydd ein hoed yn cyfri dim wrth uno yn y band.’

Recordiwyd a chynhyrchwyd y gân yn Our Lady Studio yn y Borth gan Mike West. Yn ogystal â chlywed Steff a bron i 30 o aelodau Iwcadwli ar y trac, mae gwraig a mab Mike, sef Katie a Julian West, yn helpu mas ar y bas dwbl a’r drymiau. Hoffai Iwcadwli hefyd ddiolch i Hannah McCarthy, sef sacsoffonydd Bwca, am baratoi’r trefniant cerddorol ac i Alis Haf, y dylunydd medrus o Aberystwyth, am y gwaith celf.

Mae ‘Eneidiau Hoff, Cytûn’ allan nawr ar Recordiau Hambon!