Mae Clwb Busnes Aberystwyth wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar gyda’r ymgyrch #CefnogiLleol – efallai eich bod wedi gweld posteri, sticeri ffenest a bolardiau ogwmpas y dref da’r neges CEFNOGI Lleol – SUPPORT LOCAL. Ynghlwm â’r ymgyrch mae dau fideo sydd hefyd wedi’u lansio yn ddiweddar, i hysbysebu’r dref, a hefyd y busnesau annibynnol.
Yn ychwanegol i’r ymgyrch, mae’r Clwb Busnes hefyd wedi lansio llawlyfr ‘Beth Sydd Mlaen’, sy’n gyfredol am yr haf (hyd at ddiwedd Medi), gyda diolch am arian grant gan Gyngor Tref Aberystwyth.
Bwriad y llawlyfr yma yw rhannu’r ystod eang o ddigwyddiadau sydd yn ymlaen o amgylch Aberystwyth, ac mae’n cynnwys rhywbeth i bawb! Bydd y tîm yn y Clwb Busnes yn gweithio dros yr haf ar gyfer yr argraffiad newydd a fydd yn mynd â ni o Hydref hyd at ddiwedd y flwyddyn.
Os oes digwyddiadau gyda chi, neu ddiddordeb mewn hysbysebu yn y llawlyfr, cysylltwch â Kerry neu Becky ar info@aberystwythbusinessclub.com.
Mwy am y Clwb Busnes
Nôd y clwb yw bod yn llais cryf ar gyfer y gymuned fusnes yn, ac o gwmpas, Aberystwyth. Does dim rhaid i chi ymuno a dod i bob cyfarfod, ond pam na wnewch chi ymuno a’r rhestr e-bost. Ein bwriad yw gwneud yn siŵr bod pob busnes yn yr ardal yn ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd Pa grantiau sydd ar gael a’r newyddion diweddaraf o’r Senedd neu’r Cyngor Sir. Cewch wybod sut mae modd i chi fod yn rhan o ddigwyddiadau fel yr ymgyrch Cefnogi Lleol.
Mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda Kerry Ferguson neu Becky Barratt i drafod ymhellach, neu ewch i’r wefan i ymuno gyda’r rhestr e-bost.