Asiantaeth Gosod Tai Leol yn Ymuno ag Ymgyrch Bagiau Gwrth-wylanod

Yr ALP yn ymuno â’r ymgyrch i ddefnyddio bagiau atal gwylanod yn Aberystwyth

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Yn ddiweddar, sicrhaodd Cyngor Tref Aberystwyth stoc gyfyngedig o fagiau atal gwylanod i’w gwerthu am bris cost. Mae hyn yn rhan o’u strategaeth a’u datrysiad wrth symud ymlaen i wella’r problemau sbwriel mae Aberystwyth yn aml yn eu gweld yn ystod y tymor bridio gwylanod.

Gall y bagiau atal gwylanod ddal hyd at 2 neu 3 o fagiau ailgylchu / gwastraff cyffredinol, ac wrth eu cau, sicrhau nad yw gwylanod yn gallu cyrraedd y bagiau arferol. Gellir plygu’r bagiau hyn yn hawdd a’u cadw’r tu mewn pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, ac maent yn ddewis da os nad oes lle i ddefnyddio biniau olwynion.

Dywedodd y Dirprwy Faer, Kerry Ferguson, a gysylltodd â’r asiantaeth gosod tai ALP:

“Mae staff Cyngor Tref Aberystwyth wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau stoc gyfyngedig o’r bagiau atal gwylanod i ni, ac fel Cynghorwyr rydym yn awyddus i sicrhau bod cymaint o drigolion â phosibl yn gwybod eu bod yn gallu eu prynu. Mae llawer o waith i’w wneud o ran addysgu cartrefi sut i gyflwyno gwastraff yn iawn, a dwi ddim yn disgwyl i’r bagiau fod yr unig ateb. Ond maen nhw’n bendant yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Roeddwn i’n bles iawn pan gytunodd ALP i brynu nifer fawr ar gyfer eu tai, ac mae’n wych gweithio gydag asiantaeth osod leol i helpu i wella ein tref.”

Roedd Simon Warburton, sy’n berchen ar ALP yn “falch o fod yr asiantaeth gyntaf” i wneud hyn. Dywedodd:

“Rydyn ni’n hapus iawn bod y Cyngor Tref wedi gofyn i ni a hoffen ni brynu bagiau atal gwylanod. Mae gennym eisoes rai tai mewn golwg lle mae sbwriel yn broblem a dydy defnyddio biniau olwynion ddim yn bosib. Mae’n wych gweld bod y Cyngor Tref yn estyn allan at asiantaethau er budd y dref, ac rydym yn falch o fod yr asiantaeth osod gyntaf i weithio hefo nhw.”

Mae gan Gyngor Tref Aberystwyth nifer cyfyngedig o fagiau atal gwylanod ar gael i’w prynu am £4 yr un. Mae’r bagiau ar gael mewn du (ar gyfer gwastraff cyffredinol) a gwyn (i’w hailgylchu). Gallwch hefyd gasglu cadachau bwyd, bagiau ailgylchu a bagiau gwastraff bwyd o swyddfa’r Cyngor Tref rhwng 10yb a 4yp, o ddydd Llun i ddydd Iau.