Ailhadu glaswellt – arddangosiad arbennig

Apêl Sir Nawdd CFAC Ceredigion 2024 yn rhoi sylw i ddulliau ailhadu effeithiol

gan Sara Jenkins
Fferm Trawsgoed, Prifysgol Aberystwyth

Fferm Trawsgoed fydd lleoliad y digwyddiad ail-hadu glaswellt

Gyda phrisiau porthiant yn cynyddu, mae’r gallu i gynhyrchu porthiant cartref o safon uchel yn bwysicach nag erioed i ffermwyr Cymru. Un elfen allweddol all helpu i gyrraedd y nod o dyfu porthiant o ansawdd uchel yw rhaglen lwyddiannus o ailhadu ac adfywio porfa.

Mae Apêl Sir Nawdd CFAC Ceredigion 2024 yn trefnu arddangosiad o ddulliau ailhadu glaswellt ddydd Mercher, 14 Mehefin, ar Fferm Prifysgol Aberystwyth, Trawsgoed, SY23 4HS, rhwng 2pm a 5pm.

Bydd y digwyddiad, sy’n agored i ffermwyr, y wasg a phawb sydd â diddordeb, yn gyfle unigryw i weld amrywiol dechnegau ac offer ailhadu glaswellt. Bydd amryw o gontractwyr lleol yn arddangos gwahanol ddulliau o hau tir glas drwy ddefnyddio driliau disg sy’n hau mewn slotiau, peiriannau cyfunol, ac oged hau ar wasgar.

Bydd yr arddangosiad ailhadu yn rhagarweiniad i ddigwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy CAFC a gynhelir ddydd Iau, 30 Mai 2024, ar Fferm Prifysgol Aberystwyth, Trawsgoed.

Dywedodd Wyn Evans, Cadeirydd Digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy CAFC:

“Bydd y digwyddiad yn arddangosfa o dechnegau ailhadu a bydd yn rhoi cipolwg ar ymarferoldeb a chostau ailhadu i ffermwyr. Mae’n gyfle unigryw i ymweld â safle digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy 2024.”

Dywedodd Stephen Jones, Rheolwr Ffermydd Prifysgol Aberystwyth;

“Rydym yn falch iawn o’ch gwahodd chi i gyd i Fferm Trawsgoed ar y 14eg o Fehefin, lle bydd cyfle i weld pa mor effeithlon yw’r gwahanol dechnegau ailhadu. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Drawsgoed.”

Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar am gefnogaeth Delaval a Germinal Seeds, sydd wedi cytuno i fod yn brif noddwyr y digwyddiad yn 2024.

Bydd lluniaeth ar gael. I gofrestru, anfonwch e-bost at info@royalwelshgrasslandevent.com

Am ragor o fanylion a diweddariadau am yr arddangosiad ailhadu a digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy CFAC, dilynwch ein tudalen Facebook: Ceredigion 2024 RWAS Sustainable Grass and Muck Event.