Fore Sadwrn, 1 Ebrill, roedd prysurdeb a balŵns arbennig yn Neuadd Rhydypennau, Bow Street, wrth i Apêl Elain gynnal bore coffi i ddathlu pen blwydd Elain yn 13. Daeth teulu a ffrindiau ynghyd i baratoi cacennau a phaneidiau a threfnu gweithgareddau eraill yn y neuadd. Rhwng y bore coffi a’r arian a gyfrannwyd ar-lein llwyddwyd i godi bron i £1,500 tuag at Dŷ Hafan a Chronfa Ddymuniadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae Tŷ Hafan yn rhoi cysur, gofal a chefnogaeth i blant a chanddynt gyflyrau sy’n byrhau bywyd, ac i’w teuluoedd, ac mae’n lle sydd wedi bod yn hollbwysig i Elain a’i theulu dros y 12 mlynedd diwethaf.
Nod Cronfa Ddymuniadau Hywel Dda yw creu atgofion a rhoi profiadau arbennig i bobl ifanc a chanddynt gyflyrau sy’n byrhau neu’n peryglu bywyd, a hynny yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro.
Yn ogystal â’r gwaith codi arian a fu, mae mam Elain, Bridget Harpwood, wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer ymgymryd â Her Tri Chopa Cymru ddechrau mis Mai, a hynny yng nghwmni 10 o famau eraill Tŷ Hafan.
Gallwch gefnogi eu hymdrechion codi arian fan hyn: https://www.justgiving.com/fundraising/bridget-harpwood1
Pob lwc iti, Bridget, a phen blwydd hapus i tithau, Elain!
Nia Peris