Mewn cyfarfod diweddar o Gyngor Tref Aberystwyth, awgrymodd y Cynghorydd Lucy Huws y byddai yn fuddiol i gael bardd i ddathlu digwyddiadau yn nhref Aberystwyth.
Cytunodd y Cynghorydd Emlyn Jones, sydd yn cynrychioli ward Canol Aberystwyth gan ddweud:
Y bwriad yw dathlu diwylliant llenyddol cryf Aber, sydd yn gartref i, ac wedi magu nifer o feirdd a phrifeirdd, a hyrwyddo’r traddodiad barddol yn y byd modern.
Gyda chais y dref i ddod yn Ddinas Lenyddiaeth UNESCO, mae’n teimlo fel yr amser perffaith i ddathlu barddoniaeth a beirdd Aberystwyth.
Mae’r Cyngor yn ystyried sut byddai hyn yn gallu gweithio er budd y dref.
Mae nosweithiau Cicio’r Bar yng Nghanolfan y Celfyddydau yn hynod o boblogaidd, ac yn hyrwyddo lleisiau newydd, ond hefyd yn rhoi cyfle i’n ffefrynau, Eirug Salisbury, Hywel Griffiths a Mererid Hopwood, sydd i gyd yn byw yn Aberystwyth ar y foment.
Fel cartref arwyr barddol megis Gwenallt, Alun Lewis, T H Parry Williams, T Gwynn Jones; cyn-fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth megis R Williams Parry, Waldo, Gerallt Lloyd Owen, a merched megis Dorothy Noel Bonjaree, Gwerful Mechain a Mari Ellis Dunning.
Mae digon o ddewis o feirdd yn yr ardal. Mary Burdett Jones, Robert Lacey, Iwan Bryn, Iwan Rhys, gyda’r Cyngor Llyfrau yn brolio 3 bardd – Huw Meirion Edwards, Anwen Pierce ac Arwel Jones.
Ond cwestiwn i chi – a yw Aberystwyth angen bardd?