Wnaethoch chi fethu Amdani Fachynlleth llynedd? Doedd dim ticedi ar ôl i nifer o sesiynau felly beth am archebu eich ticedi yn gynnar eleni?
Mewn cydweithrediad rhwng llyfrwerthwyr, lleoliadau a gwirfoddolwyr, mae rhaglen eang o gyflwyniadau, sgyrsiau a darlleniadau gan awduron rhagorol o Gymru a thros y ffin rhwng Mawrth y 31ain a’r 2il o Ebrill 2023.
O gerddoriaeth a barddoniaeth, teithiau trwy dirwedd Cymru, straeon bwyd Affricanaidd a Chymreig, lansiad llyfr arbennig iawn, gweithdy ysgrifennu, awduron plant a llawer mwy. Cynhelir mewn lleoliadau amrywiol o amgylch y dref, gan gynnwys Y Tabernacl-MOMA, Eglwys San Pedr , Llyfrgell y Dref, y Clwb Bowlio gyda Gwesty’r Wynnstay a’r Senedd-dy Owain Glyndŵr fel y prif leoliadau.
Dyma flas o raglen eleni: –
Nos Wener 31 o Fawrth 2023
6 yr hwyr -Peter Lord a Rhian Davies yn trafod y llyfr “The Art of Music”
8 yr hwyr – Swper y Beirdd – Grug Muse, Samantha Wynne-Rhydderch, Morgan Owen, Mari Ellis Dunning, Sam Robinson, Judith Musker Turner a Cyril Jones
Dydd Sadwrn 1af o Ebrill 2023
11 y bore – Maggie Ogunbanwo yn siarad am fwyd gyda “African Twist” a “The Melting Pot”
1.30 y prynhawn – Jan Brown yn siarad am ei nofel newydd “People Like Us” sy’n cyfuno ffuglen a ffaith i adrodd hanes ei hen nain yn Neuadd Gregynog yn niwedd y 19g.
3 y prynhawn – Carwyn Graves yn siarad am eirfa am fwyd o’i lyfr “Welsh Food Stories”
4.30 y prynhawn – Agor y Meddwl Cymreig-sesiwn drafod gyda Simon Brooks & Huw Williams
Dydd Sul 2il o Ebrill 2023
10.30 y bore – Julie Brominicks yn trafod ei llyfr “The Edge of Cymru” gyda Tom Bullough
12 o’r gloch – Yr awdur o Olgedd Ceredigion Jasmine Donahaye yn trafod ei llyfr newydd “Birdsplaining”
1.30 y prynhawn – Guy Shrubsole a’i lyfr “The Lost Rainforests of Britain”
3 y prynhawn – Mererid Puw Davies – golygydd O’r Pedwar Gwynt yn trafod Nansi Lovell.
4.30 y prynhawn – Awdur Jean Napier a’r beirdd Sion Aled Owen a Sian Northey yn trafod eu teithiau. Cyhoeddodd Jean Napier lyfr “Cadfan Way” am y daith rhwng Tywyn ac Ynys Enlli.
7 yr hwyr – Mike Parker yng nghwmni Ffion Dafis yn lansio ei lyfr newydd “All the Wide Border: Wales, England and the Places Between”
Pris y tocynnau yw £5 y digwyddiad, a gellir eu prynu yma drwy Eventbrite.
Cadwch lygad am ragor o gyhoeddiadau – Noson Gwis Mike Parker, Blasu Wisgi, Gweithdy Ysgrifennu, sesiynau gydag awduron plant “Elon” gan Elin Vaughan Crowley a dathliad terfynol.
Darperir cyfieithu yn y sesiynau Cymraeg.
Mae’r Ŵyl yn ddiolchgar i’r noddwyr am eu cefnogaeth i alluogi cynnal Gŵyl gydag amrywiaeth mor eang ac am bris fforddiadwy. Cefnogwch!