Adfywio Aberystwyth: £248,000 Hwb Ariannol i Ganol y Dref

Mae ‘Partneriaeth Aberystwyth’ wedi llwyddo i sicrhau £248,000 o gyllid

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU, wedi ei yrru gan Ffyniant Bro, a gefnogwyd gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae ‘Partneriaeth Aberystwyth’ sy’n cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth, Menter Aberystwyth, a Chlwb Busnes Aberystwyth wedi llwyddo i sicrhau £248,000 o gyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei weinyddu gan raglen Cynnal y Cardi drwy law Cyngor Sir Ceredigion.

Bydd ‘Prosiect ABER‘ yn rhedeg hyd at Ragfyr 2024 a’i nod yw adfywio canol tref Aberystwyth trwy amrywiaeth o brosiectau, yn ogystal â datblygu’r bartneriaeth yn y hir dymor.

Bydd y prosiect yn cyfrannu at fenter glanhau’r dref, marchnata Aberystwyth trwy gyflwyno llwybrau twristiaeth, byrddau ymwelwyr newydd, sicrhau presenoldeb ar-lein cadarn trwy wefan ac ap, a threialu technoleg glyfar.

Dywedodd Maer Cyngor Tref Aberystwyth, Kerry Ferguson, sydd hefyd yn Gyd-gadeirydd Clwb Busnes Aberystwyth:

“Mae’r cyllid Ffyniant Bro yn hynod gyffrous i ni fel partneriaeth newydd, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld gwelliannau diriaethol dros y misoedd nesaf.

Mae’r Cyngor Tref yn gweld y cyllid fel ffordd o gyflawni pethau sylweddol dros bobl a busnesau Aberystwyth ac rydym wrth ein bodd bod gwahaniaeth eisoes yn cael ei wneud.  Er enghraifft, mae Marchnad y Dref Aberystwyth i gael ei adfywio yn ardal hanesyddol nad oedd yn cael llawer o ddefnydd, ac ar yr un pryd yn cefnogi masnachwyr bach lleol.

Drwy gynnig cyflogaeth barhaol i’r Cydlynydd Marchnad ag ariennir gan y grant, bydd y Cyngor Tref yn sicrhau y bydd Marchnadoedd Top y Dref Aberystwyth yn parhau y tu hwnt i gyfnod y grant Ffyniant Bro. Bydd yr un peth yn berthnasol i’r swydd adfywio trefi newydd a fydd yn gyfrifol am brosiectau sy’n cynnwys golwg y dref.

Daw cyhoeddi Prosiect Aber ar adeg pan mae Aberystwyth wedi teimlo goblygiadau o lai o draffig troed, busnesau lleol yn cau, ac effeithiau economaidd-gymdeithasol pandemig COVID-19. Fel partneriaeth, rydym yn gweithio’n galed i wrth-droi’r duedd yma ac i adfywio bywiogrwydd economaidd a diwylliannol y dref.”

Dywedodd Emlyn Jones, Cadeirydd Menter Aberystwyth:

“Er ein bod yn dechrau gyda gwelliannau uniongyrchol yng nghanol y dref, mae ein golygon wedi’u gosod ar brosiectau mwy. Y syniad yw defnyddio Cronfa Ffyniant Bro’r Deyrnas Unedig i adeiladu sylfaen gref, lle i wneud cais am gyllid pellach ar gyfer mwy o ddatblygiad.

Yn ogystal â gweithio gyda chynrychiolwyr cymunedol a busnesau, bydd ffurfio’r Bartneriaeth newydd hon yn Aberystwyth hefyd yn darparu cyfleoedd yn y dyfodol i gydweithio â rhanddeiliaid mawr fel Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Chyngor Llyfrau Cymru. Mae deialog gynhwysol yn allweddol i lwyddiant.”

Llongyfarchiadau mawr i:-
Cyngor Tref Aberystwyth: council@aberystwyth.gov.uk
Menter Aberystwyth: info@menter-aberystwyth.org.uk
Clwb Busnes Aberystwyth: info@aberystwythbusinessclub.com