Aberystwyth yn cofio Brianna Ghey

Cynhaliwyd gwylnos i’r ferch traws o Swydd Gaer yn Aberystwyth nos Wener

Hywel Llyr Jenkins
gan Hywel Llyr Jenkins
Screenshot_20230217_232021_Instagram-1Nia Edwards-Behi

Gwylnos Brianna Ghey yn Aberystwyth

Screenshot_20230218_151609_Gallery-1

Poster yr Wylnos

Ymgasglodd dros 120 o bobl ger bandstand Aberystwyth nos Wener (Chwefror 17) i dalu teyrnged i’r ferch ifanc o Swydd Gaer, Brianna Ghey, gafodd ei lladd yn ddiweddar.

Roedd hwn yn un Wylnos allan o niferoedd lawer sydd wedi cael eu cynnal mewn ymateb i’r achos.

Cafodd bawb cyfle i gynnau cannwyll a chafwyd cyfraniadau emosiynol a gwerthfawr gan nifer o gymuned traws Aberystwyth a thu hwnt, a gan gefnogwyr.

Mae’r achos wedi ysgwyd y gymuned LHDTC+, gan adael nifer yn ofnus iawn am eu diogelwch. Teimlwyd bod rhaid cynnal digwyddiad o’r fath er mwyn cofio am ferch annwyl iawn, i sefyll yn erbyn casineb, estyn cefnogaeth i bobl traws a cheisio rhoi gobaith mewn amgylchiadau erchyll iawn.

Talodd deulu Brianna deyrnged iddi mewn datganiad, gan ddweud roedd yn “ferch, wyres a chwaer fach hoffus”.

Parhaodd: “Roedd hi’n gymeriad llawn bywyd a fyddai’n gadael argraff barhaol ar bopeth a gyfarfu â hi.

“Roedd Brianna yn brydferth, yn ffraeth ac yn ddoniol.

“Roedd Brianna yn gryf, yn ddi-ofn ac yn unigryw.

“Mae colli ei bywyd ifanc wedi gadael twll enfawr yn ein teulu, ac rydyn ni’n gwybod y bydd yr athrawon a’i ffrindiau a fu’n ymwneud â’i bywyd yn teimlo’r un peth.”