Ymgasglodd dros 120 o bobl ger bandstand Aberystwyth nos Wener (Chwefror 17) i dalu teyrnged i’r ferch ifanc o Swydd Gaer, Brianna Ghey, gafodd ei lladd yn ddiweddar.
Roedd hwn yn un Wylnos allan o niferoedd lawer sydd wedi cael eu cynnal mewn ymateb i’r achos.
Cafodd bawb cyfle i gynnau cannwyll a chafwyd cyfraniadau emosiynol a gwerthfawr gan nifer o gymuned traws Aberystwyth a thu hwnt, a gan gefnogwyr.
Mae’r achos wedi ysgwyd y gymuned LHDTC+, gan adael nifer yn ofnus iawn am eu diogelwch. Teimlwyd bod rhaid cynnal digwyddiad o’r fath er mwyn cofio am ferch annwyl iawn, i sefyll yn erbyn casineb, estyn cefnogaeth i bobl traws a cheisio rhoi gobaith mewn amgylchiadau erchyll iawn.
Talodd deulu Brianna deyrnged iddi mewn datganiad, gan ddweud roedd yn “ferch, wyres a chwaer fach hoffus”.
Parhaodd: “Roedd hi’n gymeriad llawn bywyd a fyddai’n gadael argraff barhaol ar bopeth a gyfarfu â hi.
“Roedd Brianna yn brydferth, yn ffraeth ac yn ddoniol.
“Roedd Brianna yn gryf, yn ddi-ofn ac yn unigryw.
“Mae colli ei bywyd ifanc wedi gadael twll enfawr yn ein teulu, ac rydyn ni’n gwybod y bydd yr athrawon a’i ffrindiau a fu’n ymwneud â’i bywyd yn teimlo’r un peth.”